Gweithwyr Cyngor Sir Penfro yn protestio
- Cyhoeddwyd

Mae rhai o weithwyr Cyngor Sir Penfro wedi cerdded allan o'r gwaith oherwydd protest am daliadau anghyfreithlon i'r prif weithredwr, Bryn Parry Jones.
Ar hyn o bryd mae'r heddlu'n ymchwilio i daliadau a wnaed i Mr Jones yn hytrach na chyfraniadau pensiwn.
Er gwaethaf galwadau arno i ymddiswyddo, mae yn parhau yn ei swydd.
Amcangyfrifir bod tua 200 o bobl, gan gynnwys gweithwyr y cyngor, cynghorwyr ac aelodau o'r cyhoedd, yn y brotest amser cinio tu allan i Neuadd y Sir yn Hwlffordd.
Dywedodd y cyngor nad oedd ganddyn nhw sylw.
Pleidlais o ddiffyg hyder
Mae undebau sy'n cynrychioli gweithwyr y cyngor wedi galw ar aelodau i gymryd rhan mewn pleidlais o ddiffyg hyder yn arweinyddiaeth y prif weithredwr.
Yn ôl ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru yn gynharach eleni, roedd cynghorau Sir Benfro na Sir Gaerfyrddin wedi gweithredu y tu hwnt i'w pwerau drwy adael i Mr Parry Jones a phrif weithredwr Caerfyrddin, Mark James, dynnu allan o gynllun pensiwn er mwyn osgoi taliadau treth.
Casglodd Heddlu Sir Gaerloyw nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod unrhyw drosedd wedi'i chyflawni, ond mae ymchwiliad newydd wedi cychwyn oherwydd gwybodaeth newydd.
Ym mis Gorffennaf dywedodd Cyngor Sir Penfro na fyddai unrhyw weithredu pellach yn erbyn Mr Jones ac un uwch-swyddog di-enw arall.
Straeon perthnasol
- 7 Awst 2014
- 23 Gorffennaf 2014
- 17 Gorffennaf 2014
- 17 Gorffennaf 2014
- 6 Mai 2014
- 17 Chwefror 2014
- 14 Chwefror 2014
- 30 Ionawr 2014
- 27 Medi 2013