'Taliadau ychwanegol i Gymru' medd Democratiaid Rhyddfrydol
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai Llywodraeth Cymru yn derbyn cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn taliadau ychwanegol dan gynlluniau i'w cyhoeddi gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae'r drefn bresennol o ddosbarthu arian rhwng llywodraethau y DU a rhanbarthau Lloegr - fformiwla Barnett - wedi cael ei feirniadu'n aml am adael Cymru'n fyr o arian.
Yn hytrach na diwygio'r fformiwla - syniad sy'n wrthun i'r Albanwyr - mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dadlau y byddai'n symlach i gynnig taliadau ychwanegol i Gymru.
Yn 2009 casglodd comisiwn annibynnol ar ran Llywodraeth Cymru fod y bwlch ariannol oddeutu £300m y flwyddyn, er bod rhai ASau wedi dadlau'n ddiweddar bod y ffigwr bellach yn llawer is.
Fydd yr addewid newydd yn rhan o ddogfen 'cyn-maniffesto' y Democratiaid Rhyddfrydol, fydd yn fan cychwyn i'r maniffesto llawn ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.
Dyw hi ddim eto'n glir a fyddai'r blaid yn mynnu cynnwys yr addewid mewn unrhyw gytundeb clymblaid pe bai yna Senedd grog arall ar ôl yr etholiad.
'Datrys y broblem'
Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Nid yn unig mae fy mhlaid i yn derbyn fod Cymru'n cael ei thanariannu, fe fyddwn ni fel plaid yn gweithredu i ddatrys y broblem.
"Pwrpas hyn oll yw cynnig setliad tecach i Gymru, a ry' ni'n credu taw dyma'r ffordd orau i hyn ddigwydd.
"Dyw'n cymunedau a'n gwasanaethau cyhoeddus ddim yn derbyn yr arian sy'n ddyledus iddyn nhw. Am flynyddoedd mae'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur wedi amddiffyn y status quo a gwrthod cydnabod fod Cymru ar ei cholled.
"Unwaith eto, y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n dangos taw ni yw'r unig blaid yn San Steffan fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i bobol Cymru."
Straeon perthnasol
- 29 Mai 2014
- 2 Mawrth 2014