Steffan Messenger: 'Agoriad llygad' wrth ohebu yn Israel

Steffan Messenger yn gohebu yn y Dwyrain Canol
Image caption Roedd y wal goncrit enfawr sy'n gwahanu'r diriogaeth Balestinaidd ag Israel ar y Lan Orllewinol yn un o'r golygfeydd gafodd fwya' o effaith ar Steffan Messenger

Gohebydd BBC Cymru, Steffan Messenger, yn sôn am ei brofiadau wrth ohebu o'r Dwyrain Canol yn ddiweddar:

Mae'r wythnos ddiwetha' yn gohebu o Israel, y Lan Orllewinol, a'r ffin â Llain Gaza, wedi bod yn agoriad llygad a dweud y lleia'.

Dwi'n pendroni wrth drio gwneud synnwyr o'r holl bethau 'dwi wedi'u gweld ac, yn fwy na dim, straeon y bobl ar y ddwy ochr i'r gwrthdaro hanesyddol.

Yma mae gan bawb ei farn bendant am y sefyllfa - o blaid un ochr neu'r llall. A hynny heb os nac oni bai.

Mae'r mwyafrif yn awyddus iawn i rannu eu syniadau â chi - yn gwawdio Israel am hyn, yn pardduo'r Palestiniaid am y llall.

Ond yn llai parod, efallai, i gael eu herio neu gydnabod weithiau fod pethau'n gallu bod yn amwys.

Ac mae hynny'n anodd ar un lefel i newyddiadurwr sy'n gorfod ceisio cyflwyno darlun cytbwys o'r sefyllfa.

Image caption Steffan Messenger a Ravid Lowe, mam sy'n byw mewn tref o fewn cyrraedd i rocedi Hamas

'Allwn ni ddim parhau i fyw fel hyn'

Fe wnaethon ni ymweld ag Israeliaid fel y teulu Lowe yn Ashkelon, tref sydd o fewn cyrraedd i rocedi gwrthryfelwyr Hamas.

Roedden nhw wedi gorfod byw lawr grisiau yn eu tŷ ers wythnosau er mwyn bod yn ddigon agos i redeg i'w lloches bomiau pan ddaw sgrech y seiren.

Ar ddrws y 'stafell fach ddi-ffenestr roedd 'na ddarn o bapur lle'r oedd y plant wedi bod yn cyfri'r seirenau - pump neu chwech bob diwrnod, weithiau 10 neu 12.

"Allwn ni ddim parhau i fyw fel hyn," meddai Ravid, y fam, wrtha' i.

Yn 11 oed, roedd ei merch Romi ar gyffuriau gwrth-iselder.

"Dwi'n ofnus drwy'r amser," ychwanegodd. "Ond dwi'n poeni hefyd am blant Gaza - maen nhw'n diodde'n waeth na ni am nad oes llochesi bomiau gyda nhw".

Symbol o'r rhwyg rhwng y ddwy ochr

Chawson ni ddim mynd i Gaza ei hun am resymau diogelwch, prinder adnoddau oddi fewn i gynnal criw arall o'r BBC.

Ond fe aethon ni i'r Lan Orllewinol, lle'r oedd y wal goncrit enfawr sy'n gwahanu'r diriogaeth Balestinaidd ag Israel yn un o'r golygfeydd gafodd fwya' o effaith arna' i.

Yn fawr, yn fygythiol, ry'ch chi bron yn crynu yn ei gysgod. Mae'n symbol enfawr o'r rhwyg sy'n bodoli rhwng y ddwy ochr.

Yn Ramallah, rhyw 10 munud o'r mur, nes i gwrdd â'r Palestiniaid sy'n cydlynu'r gofal dyngarol sy'n cael ei anfon o'r Lan Orllewinol i Gaza.

Image caption Mae'r wirfoddolwraig Faresh yn poeni am ei theulu sy'n byw ar Lain Gaza

'Colli popeth'

Roedd gan nifer o'r gwirfoddolwyr deulu yno.

"Mae'n anodd iawn cysylltu â nhw - llinellau ffôn wedi'u chwalu, dim trydan," meddai Faresh, myfyrwraig yn y brifysgol leol.

"Mae fy nheulu wedi colli popeth, eu tŷ, ysgol y plant, yr adeiladau lle mae fy mherthnasau i'n gweithio - popeth."

"Mae Israel yn dweud eu bod nhw'n targedu terfysgwyr. Ond mae'r byd i gyd yn gweld y llunie sy'n dod o Gaza - ysbytai, ysgolion yn cael eu bomio, pobl gyffredin, plant yn cael eu lladd."

"Does gan y bobl hyn ddim i'w wneud ag arfau, ddim i'w wneud â gwleidyddiaeth - y cyfan y maen nhw isie ei wneud yw byw eu bywydau bod dydd."

Mae'n anodd - neu'n amhosib efallai - dod i gasgliadau ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yn Israel a Gaza ar hyn o bryd. Yr unig beth sy'n sicr yw ei fod e'n erchyll.

Fel y dywedodd un dyn doeth wrtha i ar y daith hon - "chei di ddim gwirionedd mewn rhyfel".