Staff Amgueddfa Cymru yn mynd ar streic

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr ar streic yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.
Disgrifiad o’r llun,
Gweithwyr ar streic yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

Bydd staff mewn chwech o leoliadau Amgueddfa Cymru yn mynd ar streic ddydd Sadwrn, y cyntaf o gyfres sydd wedi eu cynllunio drwy gydol y gwyliau haf.

Bydd aelodau o'r undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn cerdded allan o'i gwaith am 13:00 o ganlyniad i ddadl dros gyflogau a thoriadau i bensiynau.

Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru eu bod nhw'n "siomedig iawn" am y streic gan ymddiheuro i gwsmeriaid fydd yn cael eu heffeithio.

Bydd gweithwyr yn mynd ar streic bob prynhawn Sadwrn a Sul drwy gydol mis Awst.

'Staff yn colli hyd at £1,000'

Dywedodd Neil Harrison cadeirydd cangen GCM yn Amgueddfa Cymru: "Byddai cynnig y rheolwyr yn golygu bod staff sy'n gweithio ar benwythnosau'n colli hyd at £1,000 a bron i 10% o'u pensiwn terfynol.

"Mae staff yr amgueddfa eisoes wedi colli 15% oddi ar eu cyflogau mewn termau go iawn dros y pedair blynedd diwethaf a rwan mae disgwyl iddyn nhw golli mwy."

Mae Amgueddfa Cymru wedi dweud y bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agored rhwng 10:00 - 17:00 dydd Sadwrn a dydd Sul, ond efallai y bydd llai o wasanaethau ar gael na'r arfer.

Bydd Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ar gau rhwng 13:00-17:00.

Ni fydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn cael ei heffeithio.

'Cynyddu'r cyflogau isaf 2%'

Ychwanegodd llefarydd Amgueddfa Cymru: "Fel nifer o fudiadau eraill yn y sector cyhoeddus, mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd yn ystod y cyfnod economaidd heriol hwn.

"Ond rydym yn parhau wedi ymroi i leddfu'r effaith ar ein staff drwy gynyddu'r cyflog sylfaenol o leiaf 2% ar gyfer y rheiny ar y cyflogau isaf, cyflwyno'r cyflog byw ac rydym yn ystyried ffyrdd y gallwn ni ddiogelu pensiynau."