Streic diffoddwyr tân
- Published
Bydd diffoddwyr tân yn cynnal cyfres newydd o streiciau fel rhan o ddadl hir ynglŷn â phensiynau.
Bydd aelodau undeb y frigad dân - y FBU - yn cerdded allan o'i gwaith am hanner dydd, ddydd Sadwrn am ddwy awr, ac yna am awr arall am 22:59.
Bydd streic yn mynd yn ei blaen ar yr un amseroedd pob dydd tan 16 Awst.
Mae'r llywodraeth wedi cyhuddo'r undeb o 'weithredu'n afresymegol', ond mae'r undeb wedi eu cyhuddo o "gerdded i ffwrdd" o drafodaethau, wedi i'r gweinidog tân newydd ganslo cyfarfod oedd eisoes wedi'i drefnu.
'Difetha cyfle i gael hyd i ateb'
Dywedodd yr undeb eu bod nhw fod i gyfarfod Penny Mordaunt ddydd Iau, ond yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y FBU, Andy Dark, roedd hi wedi "difetha unrhyw gyfle i gael hyd i ateb".
Mae diffoddwyr tân eisoes wedi cynnal streiciau dros gynlluniau gweinidogion i godi'r oedran ymddeol ar eu cyfer o 55 i 60 a chynyddu eu cyfraniadau pensiwn, gyda'r newid cyntaf yn dod i rym fis Medi.
Mae'r undeb yn dweud eu bod nhw'n pryderu y gallai nifer o'u haelodau fethu'r prawf ffitrwydd sy'n angenrheidiol i barhau ar ddyletswydd yn ei 50au hwyr, gan orfod gadael y gwasanaeth o ganlyniad i hyn.
Yn ogystal dywedodd y FBU y byddai'r cynlluniau'n golygu pe bai diffoddwyr tân yn penderfynu ymddeol yn gynnar, byddai'r lleihad yn eu pensiwn yn "annerbynniol o uchel".
Cynnig teg
Ond mae'r llywodraeth yn dweud bod y cynnig sydd ar gael yn deg.
Bydd y frigad dân wedi trefnu cynllun wrth gefn yn ystod y gweithredu diwydiannol, gan gynnwys defnyddio staff ar gytundeb, ond bydd llai o injans tân ar gael.
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Gorffennaf 2014
- Published
- 4 Mai 2014
- Published
- 3 Mai 2014
- Published
- 2 Mai 2014
- Published
- 3 Ionawr 2014