Tywydd: Gwyntoedd cryfion i ddod
- Cyhoeddwyd
Mae heddluoedd a diffoddwyr wedi cael eu galw i achosion o lifogydd wrth i'r tywydd garw gyrraedd Cymru.
Yn unol â rhybudd gan y Swyddfa Dywydd, daeth glaw trwm a gwyntoedd cryfion i rannau helaeth o Gymru gyfan yn ystod y dydd.
Mae'r Rhybudd Melyn ganddyn nhw bellach wedi ei addasu wrth i weddillion cyn-gorwynt Bertha symud dros Fôr yr Iwerydd ar draws y DU.
Bellach mae'r rhybudd am law trwm yn weithredol dros Siroedd Dinbych a Fflint tan 23:45 nos Sul, ond mae'r rhybudd am wyntoedd cryfion yn weithredol dros Gymru gyfan tan 09:00 fore Llun.
Tarodd corwynt Bertha ynysoedd ym Môr y Caribî, ac ers hynny mae gweddillion y corwynt wedi bod yn symud ar draws yr Iwerydd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi pedwar rhybudd i baratoi am lifogydd, ond hefyd un rhybudd am lifogydd yn Llanddulas ger Bae Colwyn.
Maen nhw'n cynghori pobl i gadw draw i aber afonydd Wysg a Gwy yn Sir Fynwy, Crofty ar Benrhyn Gŵyr ac arfordir cyfan y gogledd o Lannau Dyfrdwy i ddwyrain Ynys Môn.
Mae criwiau o ddiffoddwyr wedi bod mewn eiddo yng Nghaerdydd a dau yng Nghasnewydd.
Yn y gorllewin mae aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael eu galw i ddau adroddiad o lifogydd yn Nhyddewi, Sir Benfro.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: "Mae posibilrwydd y byddwn yn gweld glaw trwm, mwy na 50mm, a gwyntoedd ar y glannau o fwy na 60mya."
Ond ychwanegodd ei bod hi'n anodd proffwydo union natur y storm, er bod adroddiadau hefyd wedi cyrraedd am fellt a tharanau mewn mannau.