Heddlu'n canfod dyn fu ar goll
- Published
image copyrightHeddlu Gogledd Cymru
Mae dyn fu ar goll ers dydd Mercher wedi cael ei ganfod yn fyw ac yn iach.
Roedd Heddlu West Mercia wedi apelio am gymorth i ddod o hyd i Phillip Speake, 25 oed, oedd ar goll o'i gartref yn Wem, Sir Amwythig, ar ddydd Mercher, 6 Awst.
Cafodd ei weld bryd hynny yn gadael Neuadd y Dref yn nhre Amwythig.
Ers hynny doedd ddim wedi bod yn ei waith, a'r tro diwethaf iddo gael ei weld oedd ychydig cyn 11:00 ar ddydd Gwener, 8 Awst, y tu allan i siop i Co-op yn Y Waun.