Gwasanaeth cynghori wedi canlyniadau

  • Cyhoeddwyd
Meic CymruFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r llinell gymorth ar agor 24/7 dros y ffon, ar-lein neu neges destun

Wrth i ddisgyblion ysgolion a cholegau ar draws Cymru baratoi i glywed canlyniadau pwysig dros yr wythnosau nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi eu hatgoffa o wasanaeth arbennig.

Mae Meic yn wasanaeth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Fel rhan o'r gwasanaethau sydd ar gael mae gan Meic ymgyrch ar y gweill ar wefan Facebook er mwyn cynnig clust i bobl ifanc sy'n teimlo dan bwysau yn y cyfnod yma.

Mae'r gwasanaeth llinell gymorth hwn ar agor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth dros y ffôn, drwy neges destun a negeseua gwib.

Ym mis Ionawr 2011, penderfynwyd darparu'r gwasanaeth bob dydd a nos, ac ers hynny mae mwy nag 20,000 o blant a phobl ifanc wedi cysylltu â Meic. Mae'r Llywodraeth yn rhoi £850,000 o gymorth i'r gwasanaeth.

'Byd o wahaniaeth'

Dywedodd y Gweinidog Jeff Cuthbert:

"Mae aros am ganlyniadau arholiad yn gallu achosi llawer o straen i bobl ifanc. Mae'n garreg filltir bersonol bwysig wrth iddynt baratoi ar gyfer y cam nesaf yn eu bywydau. Bydd eu canlyniadau yn ffactor allweddol wrth iddyn nhw ddewis llwybr ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n bwysig eu bod yn gwybod nad ydynt ar eu pen eu hunain, ac os ydynt am drafod eu pryderon a chael cymorth, bod ganddynt rywle i droi lle maen nhw'n gallu siarad yn agored, yn gyfrinachol ac yn ddienw.

"Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Meic wedi gwneud byd o wahaniaeth wrth helpu pobl ifanc sydd wedi profi'r un fath o emosiynau a theimladau. Mae Meic yn rhoi cyfle iddyn nhw leisio eu pryderon ac yn sicrhau bod rhywun yn gwrando arnynt."

Gallwch gyrraedd at Meic ar-lein neu drwy ffonio 0808 80 23456.