Cloi mynwent oherwydd sbwriel?
- Cyhoeddwyd

Fe allai mynwent yng Ngwynedd gael ei chloi yn y dyfodol oherwydd bod ymwelwyr yn gadael cymaint o sbwriel yno.
Mae arwyddion ym mynwent Bethel yng Ngolan ger Porthmadog yn gofyn i bobl fynd â'u sbwriel gyda nhw, ond mae mwy a mwy yn cael ei adael ar ôl.
Cyngor Cymuned Dolbenmaen sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r fynwent, ac maen nhw'n dweud bod gwagio'r bin yno yn rhy ddrud.
Dywedodd y cynghorydd cymuned Megan Lloyd Williams bod y sefyllfa yn drist, ond bod cau'r fynwent yn un dewis o ffordd ymlaen sydd o dan ystyriaeth.
Maen nhw hefyd wedi ystyried gosod camerâu yno er mwyn rhwystro pobl sy'n gadael sbwriel.
Mae cynghorydd cymuned arall, Dafydd Thomas, yn ymweld â'r fynwent unwaith y mis i glirio'r sbwriel, ond dywedodd bod y gwaith yn mynd yn galetach.
Dywedodd y Cyngor Cymuned y byddan nhw'n monitro'r sefyllfa rhwng nawr a diwedd y flwyddyn pan fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud, ac os fydd giatiau'r fynwent yn cael eu cloi neu beidio.