Rhybuddion tywydd yn parhau oherwydd effeithiau'r cyn-gorwynt
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i gawodydd trwm a tharanllyd daro canolbarth a de Cymru yn ystod dydd Llun wrth i effeithiau'r cyn-gorwynt Bertha daro Prydain
Mae un rhybudd llifogydd a phedwar rhag-rybudd llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn glaw trwm a effeithiodd nifer fawr o ardaloedd ar draws de Cymru ddydd Sul.
Caerdydd oedd un o'r ardaloedd a gafodd ei tharo waethaf gyda 47.4mm o law, y rhan fwyaf yn disgyn o fewn chwe awr.
Mae gwynt cryf yn y de-ddwyrain hefyd wedi arwain at gyfyngiadau ar Bont Hafren ar yr M48 ond mae'r bont yn parhau i fod ar agor.
Dywedodd trefnwyr rasys hwylio Topper World ym Mhwllheli fod holl rasys diwrnod cyntaf y bencampwriaeth wedi eu gohirio oherwydd y tywydd garw.
Mae'r glaw trwm wedi symud i'r gogledd ddwyrain ac mae disgwyl cawodydd trwm drwy'r dydd ddydd Llun.
Ddydd Sul, cafodd diffoddwyr tân yn y de eu galw i dŷ yn Stryd Cranbrook, Caerdydd, a dau dŷ arall yng Nghasnewydd.
Fe ddisgynnodd coeden ar ffordd yr A4232 oherwydd gwyntoedd cryfion rhwng Glanfa Iwerydd a Ffordd Knox yng Nghaerdydd.
Roedd rhybudd am wyntoedd a allai hyrddio hyd at 50mya yn parhau i fod mewn grym ar gyfer gogledd Cymru fore Llun.
Bu'n rhaid i Wylwyr y Glannau a'r RNLI gynorthwyo tua 140 o gaiacwyr.
Mentrodd tua 140 o bobl mewn 70 o gaiacau dwbl gychwyn o Ddoc Fictoria yng Nghaernarfon er waetha'r tywydd garw.
Yn ôl llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau Caergybi, roedd y grŵp yn anelu am Lanfairfechan ond penderfynodd y grŵp roi'r gorau iddi ger pier Bangor.
Cafodd bad achub Biwmares ynghyd â thimau Gwylwyr y Glannau o Fangor a Llandwrog eu hanfon i gynorthwyo'r grŵp.