Llys yn Ne Affrica yn cymeradwyo estraddodi Martin Evans i'r DU
- Cyhoeddwyd

Bydd y twyllwr a'r gwerthwr cyffuriau Martin Evans o Abertawe yn cael ei estraddodi i'r DU ar ôl bod ar ffo yn Ne Affrica.
Cafodd y dyn a dwyllodd bobl yn ne Cymru i fuddsoddi £900,00 mewn fferm estrys ei arestio ar 2 Awst.
Ymddangosodd gerbron llys ynadon Randburg yn Johannesburg ddydd Llun.
Yn 2006, cafodd ei garcharu am 21 mlynedd yn y DU am gynllwynio i ddarparu cocên ac am fasnachu twyllodrus, ond fe ddiflannodd yn 2011 ar ôl methu dychwelyd o'r carchar ar ôl cael ei ryddhau am benwythnos.
Yn y gwrandawiad, dywedodd y Lefftenant Cyffredinol Solomon Makgale : "Mae Martin Evans wedi ymddangos yn y llys. Mae llys ynadon Randburg wedi ei ganfod yn estraddodadwy.
"Ni ellir cyfathrebu dyddiad yr estraddodi ar hyn o bryd am resymau diogelwch."
Yn 2012 cafodd Evans, sydd hefyd wedi defnyddio'r enwau Martin Roydon Evans, Martin Wayne Evans, Anthony Hall a Paul Kelly, ei gynnwys ar restr o'r bobl yr oedd heddlu'r DU yn fwyaf awyddus i'w dal.
Ar y pryd roedd yr awdurdodau'n amau ei fod yn byw bywyd moethus yng Nghiprys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2014
- Cyhoeddwyd16 Awst 2011
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2006