Cwest i farwolaeth Arthur Jones wedi ei agor yn Rhuthun
- Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth Arthur Jones o Ddinbych wedi ei agor a'i ohirio yn Neuadd y Sir yn Rhuthun.
Bu farw'r dyn 73 oed ar wyliau ar ynys Creta yng Ngroeg.
Wrth agor y cwest, dywedodd y Crwner John Gittins fod archwiliad meddygol gan yr awdurdodau yng ngwlad Groeg wedi dod i'r casgliad na fu yna weithred droseddol.
Roedd llawfeddyg yn y wlad wedi awgrymu bod y farwolaeth wedi digwydd "o fewn 10 diwrnod olaf mis Mehefin 2014".
Ymchwiliad lawn
Doedd yr archwiliadau ddim wedi sefydlu achos y farwolaeth hyd yn hyn, a dywedodd y crwner y byddai'n cynnal ymchwiliad llawn.
Cafodd Arthur Jones ei weld am y tro diwethaf ar Fehefin 19, dau ddiwrnod ar ôl cyrraedd ynys Creta.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod o dan goeden ar Awst 3, mewn ardal wledig yn agos i dref Chania, lle'r oedd wedi bod yn aros.
Dywedodd y crwner fod corff Mr Jones wedi ei gludo yn ôl i'r DU yr wythnos ddiwethaf.
Oherwydd y cymhlethdod o weithio gydag awdurdodau tramor, esboniodd Mr Gittins nad oedd yn bosib gosod dyddiad ar gyfer ymchwiliad llawn.
Cafodd y cwest ei ohirio.
Straeon perthnasol
- 9 Awst 2014
- 6 Awst 2014