Michel Vorm: Utrecht yn cyfeirio Abertawe at Fifa

Michel Vorm Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe chwaraeodd Michel Vorm unwaith i'r Iseldiroedd yn ystod Cwpan y Byd 2014

Mae llefarydd ar ran clwb pêl-droed Utrecht wedi cadarnhau eu bod wedi cysylltu â Fifa i gwyno am Abertawe.

Mae'r clwb o'r Iseldiroedd yn honni fod arian yn ddyledus iddyn nhw ar ôl i'w cyn golwr Michel Vorm adael Yr Elyrch i ymuno â Tottenham Hotspur.

Yn ôl llefarydd ar ran Abertawe, fyddan nhw ddim yn ymateb ar ôl mynnu'r wythnos ddiwetha' nad oedden nhw wedi gwneud unrhyw beth o'i le o ran trosglwyddiad Vorm.

Ond mae Utrecht yn honni nad ydyn nhw wedi derbyn 30% o ffi drosglwyddo Vorm, a oedd - meddai nhw - yn rhan o'r cytundeb pan ymunodd o â'r Elyrch yn 2011.

Symudodd Vorm, 30, i White Hart Lane fis diwetha', ond dyw'r ffi ddim wedi cael ei gyhoeddi.

Anghytuno

Roedd Abertawe yn mynnu nad oedd trosglwyddiad Vorm yn mynd yn groes i unrhyw reolau.

Yn ôl Utrecht, roedd y ddau glwb wedi cytuno ar gymal gwerthu fel rhan o'i gytundeb ond nad ydyn nhw wedi derbyn ceiniog gan Abertawe ers i Vorm symud i Lundain.

Wrth siarad â BBC Cymru, honnodd rheolwr cyffredinol Utrecht, Wilco van Schaik, fod cadeirydd yr Elyrch, Huw Jenkins, wedi dweud fod y clwb wedi gadael i Vorm fynd "am ddim".

"Mae hynny'n annhygoel ac yn annerbyniol," meddai van Shaik, cyn cadarnhau eu bod wedi cyfeirio'r mater at Fifa.

"Mae Michel yn olwr dibynadwy iawn yn yr Uwchgynghrair. Mae'n 30 oed, sy'n oed da.

"Roedd ganddo ddwy flynedd ar ôl ar ei gytundeb ac enw da.

"Heblaw am hynny, mae'n aelod gwerthfawr o garfan yr Iseldiroedd. 'Dan ni eisiau'r 30% fel oedd wedi'i gytuno."

'Yn briodol'

Cyn iddyn nhw gael eu cyfeirio at Fifa, dywedodd llefarydd ar ran Abertawe fod trosglwyddiad Vorm "wedi ei gynnal a'i gwbhlau yn briodol" o dan reolau'r Uwchgynghrair.

"Roedd yr Uwchgynghrair wedi ei gymeradwyo, ac felly hefyd Fifa trwy eu system TMS," ychwanegodd.

"Tra'n bod ni mewn cysylltiad ag Utrecht o ran cwrteisi, byddwn yn parhau i gynnal ein busnes a rhoi'r clwb a'n cefnogwyr gynta'."

"Fydd y clwb ddim yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater hwn."

Roedd Spurs hefyd wedi arwyddo Ben Davies, o Abertawe, fel rhan o gyfnewid - gyda Gylfi Sigurdsson yn dychwelyd i'r Liberty.

Straeon perthnasol