Barnwr yn beirniadu dyn busnes

  • Cyhoeddwyd

Mae barnwr wedi cyhuddo dyn busnes o Sir Ddinbych o beidio â chyfaddef i'r honiadau yn ei erbyn, gan achosi rhagor o ddioddefaint i deulu dyn a fu farw ar ôl i olwyn craen 'ffrwydro' a'i ladd.

Roedd David Geoffrey Sanders, 70 oed, cyfarwyddwr Sanders Machinery o Ddinbych, wedi gwadu torri rheolau Iechyd a Diogelwch.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Kenneth Cooke, 62 oed, o Bentre' Llanrhaeadr, ger Dinbych, wedi marw o anafiadau difrifol a'r ôl i'r olwyn chwythu.

Roedd o'n defnyddio offer torri i wahanu dwy ran o'r olwyn, a hynny tra bod yr olwyn yn llawn aer ym Mawrth 2011.

Penderfynodd y rheithgor yn unfrydol o fewn llawn nag awr fod Sanders a'r cwmni yn euog o rwystro gwaith arolygwr iechyd a diogelwch.

Clywodd y llys fod Sanders wedi rhoi asesiad risg i'r arolygydd, ond fod yr asesiad yn ymwneud ag achos cwbl wahanol.

Dywedodd y barnwr "dim ond chi fydd yn gwybod pam eich bod wedi gwneud popeth i geisio dweud mai Mr Cooke oedd yn gyfrifol am y ddamwain.

Canllawiau diogelwch

"Rwy'n cymryd eich bod wedi derbyn cyngor realistig, ond eich bod wedi penderfynu ei anwybyddu.

"Rydych wedi dangos diffyg edifeirwch."

Ychwanegodd y barnwr fod yr achos yn un difrifol a phwysig.

Bydd y cwmni a Sanders yn cael eu dedfrydu ar 9 Medi.

Dywedodd yr erlynydd, Andrw Green, nad oedd y cwmni wedi dilyn canllawiau diogelwch.

Dywedodd Mr Green fod Mr Cook, oedd heb dderbyn hyfforddiant, wedi dechrau gweithio ar yr olwyn oedd yn llawn aer.

Roedd yn defnyddio offer torri oxyacetylene i gael gwared ar folltau oedd yn dal dwy ran o'r olwyn at ei gilydd.

Dywedodd Mr Green fod y bolltau yn rhoi sefydlogrwydd i fframwaith yr olwyn, a bod cael gwared ohonyn nhw wedi achosi i'r olwyn 'ffrwydro'.

Ymateb y teulu

Dywedodd mab Mr Cooke, Karl Cooke, mewn datganiad ar ran y teulu: "Mae ein teulu a'n ffrindiau wedi goddef cyfnod anodd iawn wrth i Mr Sanders barhau gan ddangos ychydig, neu ddim, edifeirwch na pharch tuag ataf i a fy nheulu.

"Mae o wedi ein gorfodi i fynd drwy'r profiad o gael achos yn Llys y Goron yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd a'i rôl fel cyflogwr".