Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth chwaraewr rygbi
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio i farwolaeth chwaraewr rygbi o Ben-y-bont ar Ogwr a ddarganfuwyd yn farw yn dilyn penwythnos 'stag' gyda'i gyd-chwaraewyr.
Cafwyd hyd i gorff Austen Howells, 40 oed, a oedd yn chwarae i glwb rygbi Maesteg, am 3:30 brynhawn dydd Sadwrn 9 Awst.
Roedd y criw o ffrindiau wedi bod yn aros yng ngwesty Bredbury Hall Hotel and Country Club yn Stockport pan ddarganfuwyd y maswr yn farw yn ei ystafell.
Mae'r heddlu'n cynnal ymchwiliad i'r farwolaeth gan archwilio'r posibilrwydd ei bod yn gysylltiedig ag alcohol neu gyffuriau.
Roedd Mr Howells newydd ddychwelyd i glwb rygbi Maesteg gan ddechrau gweithio fel hyfforddwr.
'Chwaraewr talentog iawn'
Dywedodd cadeirydd clwb rygbi Maesteg, Dennis Thomas: "Roedd ar benwythnos 'stag' gyda chriw o'r chwaraewyr.
"Roedd y newyddion yn sioc i unrhyw un gyda chyswllt â'r clwb.
"Roedd yn chwaraewr talentog iawn a hyfforddwr talentog iawn.
"Roeddem yn edrych ymlaen at ei gael yn gweithio gyda'n tîm a'r prif hyfforddwr."
'Dyn gwallgof gyda chalon aur'
Disgrifiodd ffrindiau Mr Howells fel "dyn gwallgof gyda chalon aur".
Roedd Mr Howells wedi chwarae rygbi i dimau Pen-y-bont ar Ogwr, Ton-mawr a Chwmafan, gan gynrychioli Cymru ar lefel ieuenctid.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Manceinion: "Aeth heddweision i'r gwesty ble y darganfuwyd corff dyn yn ei 40au.
"Mae'r heddlu'n gweithio i ddarganfod sut y bu'r dyn farw, ond ar hyn o bryd tydan ni ddim yn credu bod yr amgylchiadau yn rhai amheus."