Penodi Wayne Pivac yn hyfforddwr y Scarlets
- Cyhoeddwyd

Mae'r Scarlets wedi cadarnhau mai hyfforddwr cynorthwyol y rhanbarth, Wayne Pivac, fydd yn cymryd drosodd gan Simon Easterby fel eu prif hyfforddwr.
Bydd Pivac, o Seland Newydd, a ymunodd â'r rhanbarth fis diwethaf, yn cymryd yr awennau wedi i Easterby benderfynu gadael er mwyn hyfforddi blaenwyr Iwerddon.
Bu'n gweithio fel Cyfarwyddwr Rygbi Fiji rhwng 2004 a 2006 gan hyfforddi'r tim cyntaf a'r tim saith pob ochr. Yn ystod y cyfnod hwnnw enillodd y tim saith pob ochr Gwpan Rygbi'r Byd.
Dywedodd Pivac: "Mae ymuno â'r Scarlets yn her gyffrous i mi. Mae hi'n anrhydedd bod y Scarlets gyda'r ffydd ynof i, i ddatblygu ar y gwaith da a'r seiliau cadarn mae Simon Easterby wedi'i roi i'r clwb.
"Mae'r cefnogwyr yma'n debyg iawn i'r rheiny yn Seland Newydd. Maen nhw'n caru rygbi ac eisiau i'w tîm wneud yn dda. Rydw i'n edrych ymlaen yn arw i roi rheswm iddyn nhw ddathlu'r tymor yma."
Aeth ymlaen i ddweud: "Mae'r hyfforddi wedi bod yn mynd yn ardderchog, hyd yn hyn, ac yn amlwg mae'r tywydd wedi helpu!
"Rydym ni wedi cael tair wythnos gyda'r tîm, ac mae'r chwaraewyr wedi bob yn ymateb i'r drefn newydd ac rydw i'n edrych ymlaen at gychwyn y tymor.
"Mae amser cyffrous o'n blaenau."
Straeon perthnasol
- 17 Gorffennaf 2014