Cynulliad angen newid i hybu diddordeb a ffydd y cyhoedd?
- Published
Mae angen newid trefn gweithgareddau'r cynulliad er mwyn hybu ffydd a chysylltiad y cyhoedd yn ei waith.
Dyna mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies wedi ei alw amdano ddydd Mercher.
Hoffai Mr Davies weld sesiynau holi'r Prif Weinidog yn newid i roi mwy o gyfle i bobl wylio, a hefyd hoffai weld y Prif Weinidog yn mynychu'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan.
Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw, ond dywedodd y blaid Lafur bod sylwadau Mr Davies yn dangos nad yw'r Ceidwadwyr yn gallu bod yn wrthblaid effeithiol.
Mwy o gyfle i wylio
Ar hyn o bryd mae sesiynau holi'r Prif Weinidog, sy'n para 45 munud, yn cael eu cynnal yn wythnosol ar brynhawn ddydd Mawrth.
Mae Mr Davies am weld y sesiwn yn cael ei gynnal yn hwyrach yn y dydd, er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl wylio un ai ar-lein neu ar ddarllediad teledu.
Dywedodd hefyd y byddai sesiwn o gwestiynau amserol yn rhoi mwy o gyfle i raglenni newyddion poblogaidd wneud defnydd o'r sesiwn.
Yn ogystal i newid y drefn o holi'r Prif Weinidog, dywedodd Mr Davies y byddai'n croesawu gweld y Prif Weinidog yn mynychu'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan.
Dywedodd bod sesiynau tebyg gydag Ysgrifennydd Cymru eisoes yn cael eu cynnal.
'Diffyg atebolrwydd a thryloywder'
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae achosion fel diswyddo'r cyn weinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Alun Davies yn arwydd o broblemau ehangach yn ymwneud ag atebolrwydd a thryloywder o fewn Llywodraeth Cymru.
Cafodd Alun Davies ei ddiswyddo ym mis Gorffennaf am ofyn i'r gwasanaeth sifil am wybodaeth breifat am ddiddordebau ariannol rhai Aelodau Cynulliad.
Rhai dyddiau cyn hynny, dywedodd y Prif Weinidog bod Alun Davies wedi torri'r cod gweinidogol ar ôl iddo ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â phrosiect i adeiladu trac rasio enfawr yn ei etholaeth, ond ni chafodd ei gosbi y tro yna.
Yn sgil diswyddiad Alun Davies, mae'r Ceidwadwyr yn cwyno nad oes digon o weinidogion i ddelio gyda holl waith y llywodraeth.
Dywedodd Andrew RT Davies bod "scandalau" diweddar wedi effeithio ar ffydd y cyhoedd mewn democratiaeth yng Nghymru.
"Mae tryloywder a chraffu yn amheus ar eu gorau ac mae'n hen bryd i ni gael newid o'r drefn. Gallai newid technegol hybu cysylltiad y cyhoedd a'u ffydd, sy'n holl bwysig."
Gwrthblaid effeithiol?
Ychwanegodd: "Mae angen i'r Cynulliad ddal dychymyg y cyhoedd. Mae hynny'n golygu meddwl yn radical a rhoi'r cyfle i fwy o bobl gymryd rhan ar amseroedd sy'n eu siwtio nhw yn well."
Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw, ond wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur yn y Cynulliad mai materion i'r Llywydd a'r cynulliad yn ei gyfanrwydd oedd y rhain.
"Y ffaith yw, mae anfodlonrwydd y Torïaid gyda'r ffordd y mae'r Cynulliad yn gweithio yn dweud mwy am eu methiant i fod yn wrthblaid effeithiol yn fwy na dim.
"Mae eu llefarydd ar Faterion y Cynulliad wedi bod yn rhan o adolygiad sylweddol o'r ffordd mae'r Senedd yn gweithredu, a ni wnaeth godi unrhyw un o'r pwyntiau yma."
Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler ei bod hi'n synnu at alwad Mr Davies gan ei bod wedi gwahodd sylwadau o'r fath i'r pwyllgor Busnes.
Er hynny, dywedodd ei bod "wedi ymrwymo i newid a gwella craffu" ac o ganlyniad i adolygiad, bydd cyfle i lefarwyr y gwrthbleidiau ofyn cwestiynau yn y Cynulliad heb roi gwybod ynghynt o fis Medi ymlaen.