Wrecsam 0 -3 Gateshead

Mae Gateshead wedi parhau eu dechrau da i'r tymor newydd yn y Gyngres gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Wrecsam.

Wrecsam gafodd y cyfle gorau yn gynnar, wrth i ergyd Wes Brown gael ei glirio oddi ar linell gol Gateshead.

Ond Jamie Chandler sgoriodd y cyntaf i'r ymwelwyr, gan rwydo o bêl Marcus Maddison.

Daeth Wrecsam yn ol eto, wrth i beniad Connor Jennings gael ei glirio oddi ar y linell gol, ac roedd angen chwarae da gan Adam Bartlett i atal mark Carrington.

Maddison sgoriodd i ddyblu mantais Gateshead, cyn i John Shaw benio i'r rhwyd i gwblhau'r fuddugoliaeth.