Ronaldo yn arwain Real i fuddugoliaeth yng Nghaerdydd

Real Super Cup Image copyright Getty Images
Image caption Mae Real Madrid wedi trechu Sevilla o ddwy gôl i ddim yn rownd derfynol y Super Cup nos Fawrth

Gareth Bale hawliodd y sylw cyn y gem wrth iddo ddychwelyd i Gaerdydd mewn crys Real Madrid am y tro cyntaf ers iddo arwyddo iddyn nhw am record byd o ffi o £85 miliwn haf diwethaf, ond Cristiano Ronaldo oedd seren y sioe yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr

Mi sgoriodd o ddwy gôl wrth i Real Madrid gael y dechreuad perffaith i'r tymor newydd.

Roedd dros 30,000 o bobl yn y stadiwm neithiwr ac mi gafon nhw'r fraint o weld prif sgoriwr Cwpan y Byd James Rodriguez yn ogystal a'r Almaenwr Toni Kroos yn dechrau gem i Real am y tro cyntaf.

Chwaraeodd Bale ran flaenllaw yng ngôl gyntaf Ronaldo. Roedd croesiad Y Cymro o'r asgell chwith yn berffaith a chyn seren Manchester United oedd y cyntaf i ymateb yn y cwrt cosbi i roi Real ar y blaen ar ol hanner awr o'r hanner cyntaf.

Image copyright EPA
Image caption Ronaldo yn sicrhau buddigoliaeth i Real wrth iddo sgorio'r ddwy gôl

Daeth ail gol Ronaldo ar ddechrau'r ail hanner. Karim Benzema yn creu y tro yma ac y blaenwr yn canfod cornel y rhwyd o yml y cwrt cosbi efo ergyd bwerus gyda'i droed chwith.

Gall Bale fod yn hynod falch o'i gyfraniad at fuddigoliaeth Real - ond Ronaldo sy'n hawlio'r penawdau unwaith eto bore 'ma. Ac yn dilyn ei berfformiad neithiwr, mae'n hawdd gweld pam y cafodd ei goroni yn chwaraewr gorau'r byd ychydig fisoedd yn ôl.

Y tro nesaf y gwelwn ni Bale yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd fydd mewn dwy gem ragbrofol ar gyfer rowndiau terfynol Ewro 2016 ym mis Hydref. Y gobaith ydi y caiff o gystal lwc bryd hynny ag y cafodd o neithiwr.

Image copyright PA
Image caption Bydd Bale yn dychwelyd i Gaerdydd yn yr Hydref ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 216