Dŵr Cymru yn rhybuddio am beryglon cronfeydd dŵr

cwm elan Image copyright james morris
Image caption Dŵr Cymru yn rhybuddio pobl i beidio a mynd i nofio mewn cronfeydd

Wrth i'r ffasiwn diweddaraf 'wet nominate' sgubo'r gwefannau cymdeithasol, mae Dŵr Cymru wedi atgoffa pobl i beidio â rhoi eu bywydau mewn perygl drwy neidio neu nofio mewn cronfeydd dŵr.

Dyma'r weithred o enwebu a herio pobl eraill i fynd yn fwriadol yn wlyb a phostio ffilm ohonyn nhw'n gwneud hynny ar y rhyngrwyd.

Dechreuodd gyda fideo o bobl yn arllwys bwced o ddŵr oer dros bennau ei gilydd.

Eisoes eleni mae dau o bobl wedi marw mewn cronfeydd dŵr yn Lloegr.

Bu farw dau berson dros yr un penwythnos mewn cronfa dŵr ym Mannau Brycheiniog y llynedd.

Yn aml nid yw pobl yn ymwybodol o beryglon offer mecanyddol o dan y dŵr mewn cronfeydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.