Carcharu dyn am 16 mis am gludo cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi'i garcharu am 16 mis wedi iddo bledio'n euog i gael cyffuriau gwerth £200,000 yn ei feddiant.
Cafodd amffetamin fyddai'n gwerthu am tua £200,000 ar y stryd ei ddarganfod gan heddlu mewn rhan gudd o Landrover cafodd ei stopio ar yr A55 yn Sir y Fflint.
Roedd y cerbyd yn cael ei yrru gan Paul Andrew Leadbetter oedd yn cludo'r cyffuriau o Lerpwl i Ynys Môn.
Ar y pryd roedd Leadbetter, 32 oed, o Bentraeth yn Ynys Môn, mewn trafferthion ariannol a chytunodd i gludo'r cyffuriau am £100, yn ôl ei dystiolaeth yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Dywedodd ei fod yn gwybod bod y pecyn yn amheus, ond nad oedd yn gwybod ei fod yn cynnwys cyffuriau.
Ond dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands nad oedd yn derbyn hynny.
O'r Gogledd Orllewin i Ogledd Cymru
Roedd Leadbetter wedi pledio'n euog i gyhuddiad o fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda'r bwriad i'w cyflenwi mewn gwrandawiad rhagarweiniol.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands bod swm sylweddol o gyffuriau gyda phurdeb uchel yn cyrraedd Gogledd Cymru o'r Gogledd Orllewin a bod hynny'n fater difrifol.
Yn ôl David Kilty ar ran yr amddiffyn, roedd ei gleient yn hynod o edifeiriol ac wedi ysgrifennu llythyr byr at y barnwr.
Dywedodd mai rôl gyfyngedig yn y cynllun oedd gan ei gleient, nad oedd ganddo unrhyw ddylanwad dros y rheiny'n uwch nag ef yn y cynllun, a phenderfynodd "weithredu mewn modd mor eithafol" oherwydd prinder gwaith ac arian.
'Fodlon cymryd y risg'
Dywedodd y Barnwr Rowlands bod y ffaith bod y diffynnydd wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad rhagarweiniol yn bwysig i leihau ei ddedfryd.
"Ond wedi dweud hynny, mae'r swm o amffetamin yn gwneud hon yn drosedd ddifrifol iawn.
"Mi wnaethoch chi ei gasglu o Lerpwl, roedd o burdeb uchel o 66%, a byddai'n cael ei wanhau a'i werthu ar strydoedd Gogledd Orllewin Cymru."
Yn ôl y Barnwr roedd Leadbetter yn gwybod beth roedd o'n ei wneud, a nawr byddai'n rhaid iddo wynebu canlyniadau ei weithredoedd.
"Roeddech chi'n gwybod beth fyddai'n digwydd pe baech yn cael eich dal, ac roeddech chi'n fodlon cymryd y risg hwnnw."
Roedd llawer gormod o amffetamin i allu rhoi dedfryd wedi'i gohirio.
Pe bai wedi ei gael yn euog yn dilyn achos llawn byddai wedi derbyn dedfryd o ddwy flynedd dan glo, ond byddai'n derbyn y credyd llawn o draean oddi ar ei ddedfryd am bledio'n euog.
Gorchmynnodd y barnwr i'r cyffuriau gael eu dinistrio.