Cyn-bennaeth yn gwadu cyhuddiadau o dwyll
- Published
Mae'r achos twyll yn erbyn cyn-brif weithredwr Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan, Nasir Malik, wedi cychwyn.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Mr Malik wedi tynnu arian allan o gyfrif y mudiad er mwyn talu dyledion cerdyn credyd personol o fwy na £11,000.
Yn ogystal mae Mr Malik wedi'i gyhuddo o ddefnyddio arian yr elusen er mwyn talu am bolisi yswiriant bywyd £3,500 ar gyfer ei wraig.
Mae Mr Malik yn gwadu tri honiad o dwyll.
Daeth yr elusen i ben yn 2012 wedi i'r arian cyhoeddus ddod i ben wedi'r honiadau o gamreolaeth ariannol.
Roedd yr elusen yn dosbarthu arian i brosiectau ar draws Cymru gyda'r nod o hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Achos yr erlyniad
Dywedodd Jim Davis ar ran yr erlyniad, bod Mr Malik wedi gofyn i gyfarwyddwr ariannol yr elusen, Saquib Zia, am flaenswm i dalu ei gostau ym mis Mawrth 2010, gan ddefnyddio siec wag wedi'i harwyddo gan y trysorydd.
Dywedodd Mr Zia y byddai'n rhaid i'r cais gael ei gymeradwyo gan y bwrdd, ond yn y diwedd rhoddodd siec wag i Mr Malik. Defnyddiodd y siec i leihau ei fil cerdyn credyd o £2,500.
Clywodd y llys bod Mr Malik wedi cymryd siec wag arall o ddrôr Mr Zia, bedwar mis yn ddiweddarach, pan roedd o allan o'r swyddfa.
Yna cafodd y siec ei thalu i gyfrif Mr Malik ym mis Awst 2010, a hynny am swm o £9,340.36 - yr union swm yr oedd yn ddyledus ar ei gerdyn credyd.
'Ymddwyn yn anonest'
Dywedodd Mr Davis: "Tra'r oedd y diffynnydd yn rhedeg Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan roedd yn twyllo'r elusen drwy dalu mewn dwy siec am £2,500 a £9,340 i'w gyfrif, arian nad oedd yn ddyledus iddo.
"Roedd yn ymddwyn yn anonest pan wnaeth o hynny.
"Nid oedd y diffynydd wedi'i awdurdodi i ddefnyddio arian yr elusen i leihau ei fil cerdyn credyd ei hun. Roedd yn gwybod yn iawn nad oedd ganddo'r hawl i wneud hynny."
Yswiriant bywyd
Yn ogystal clywodd y llys bod Mr Malik wedi defnyddio cyfrif banc yr elusen i dalu am bolisi yswiriant bywyd yn enw ei wraig, Bronwen Malik.
Byddai'r polisi'n sicrhau bod Mrs Malik yn derbyn £120,000 pe bai Mr Malik yn marw.
Cafodd y taliadau debyd uniongyrchol misol o £89.52 eu talu rhwng cychwyn 2008 a chychwyn 2012 gan arwain at gyfanswm o fwy na £3,500.
Dywedodd Jim Davis bod y taliadau misol yma wedi cael eu cuddio yng nghyfrifon y cwmni fel taliadau "yswiriant". Ychwanegodd: "Roedd yn ymddwyn yn anonest ac yn twyllo'r elusen."
Honnodd Mr Malik bod y ddwy siec ar gyfer treuliau a bod ganddo hawl i'r polisi yswiriant bywyd oherwydd ei fod wedi dod i gytundeb ynglŷn â lleihad yn ei gyflog.
Mae'r achos yn parhau.