Anghytuno a ddylai Ched Evans ddychwelyd i chwarae pêl-droed
- Cyhoeddwyd

Yn ôl un o glybiau cefnogwyr Clwb Pêl-droed Sheffield United, bydd Ched Evans yn cael ei groesawu'n ôl gan y clwb wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar.
Cafwyd y pêl-droediwr yn euog yn 2012 o dreisio dynes mewn gwesty yn Sir Ddinbych.
Ond mae 59,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar y clwb i beidio â gadael i Evans ddychwelyd wedi ei gyfnod dan glo.
Mae disgwyl i Evans gael ei ryddhau ym mis Hydref ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd.
Gwrthod gwneud sylw ynglŷn ag adroddiadau y bydd yn cael cynnig cytundeb newydd ar ôl cael ei ryddhau y mae'r clwb.
Ond mae Alan Smith o glwb swyddogol y cefnogwyr, wedi dweud ei fod o wedi clywed y bydd yn dychwelyd.
"Rydw i wedi derbyn gwybodaeth mai dyna fydd yn digwydd," meddai.
"Rydw i wedi clywed y bydd yn dychwelyd."
Dywedodd Mr Smith ei fod yn credu y byddai mwyafrif cefnogwyr Sheffield United eisiau i Evans ddychwelyd i'r clwb, a hynny er gwaethaf deiseb arlein wedi'i harwyddo gan 59,000 o bobl yn galw ar gadeirydd y clwb, Kevin McCabe, i beidio â gadael i'r chwaraewr 25 oed ddychwelyd.
"Rydw i'n credu mai i'r rhan fwyaf o gefnogwyr byddai ei weld yn dychwelyd yn beth da oherwydd beth mae o wedi'i wneud i ni o'r blaen.
"Rydw i'n meddwl ei fod o wedi cael ei gosbi."
Dywedodd Mr Smith ei fod yn meddwl bod llawer o gefnogwyr Sheffield United yn credu bod Evans wedi'i gael yn euog ar gam.
'Rhy feddw i gydsynio'
Cafodd y chwaraewr ei garcharu am bum mlynedd am dreisio dynes 19 oed mewn ystafell mewn gwesty yn Rhuddlan.
Roedd Evans wedi gwadu'r cyhuddiad, ond fe'i cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caernarfon.
Roedd Evans wedi cyfaddef iddo gael rhyw gyda'r ddynes, ond dywedodd y ddynes nad oedd ganddi unrhyw gof o'r digwyddiad.
Yn ôl yr erlyniad roedd y ddynes yn rhy feddw i allu cydsynio.
Roedd amddiffynnydd Port Vale, Clayton McDonald, hefyd wedi cyfaddef iddo gael rhyw â'r ddynes, ond fe'i cafwyd yn ddi-euog gan y rheithgor o'r un cyhuddiad.
Cafodd apêl gan Evans yn erbyn ei ddyfarniad ei wrthod gan dri barnwr yn y Llys Apêl yn 2012.
'Rhan o'r broses ailsefydlu'
Mae cariad Mr Evans, Natasha Massey, yn credu y dylai gael dychwelyd i chwarae pêl-droed cyn y bydd unrhyw apêl arall yn cael ei glywed.
Dywedodd: "Dylai Ched gael dychwelyd i'r gwaith.
"Ar ddiwedd y dydd, dyna beth roedd o'n wneud cyn hyn ac mae o eisiau dychwelyd i'r gwaith.
"Mae hyn yn rhan o'r broses ailsefydlu."
Dywedodd Ms Massey bod Evans yn cadw'n heini yn y carchar.
Yn ôl Ms Massey; "Mae o'n paratoi i ddod adref. Yr unig beth mae Ched eisiau ei wneud ydi clirio'i enw.
"Rydan ni wedi gwneud cais am ail apêl ac ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Awst 2012
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2012