Safon Uwch: Yr aros ar ben i filoedd o ddisgyblion Cymru
- Cyhoeddwyd

Bydd miloedd o ddisgyblion yng Nghymru yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch ddydd Iau.
Y gobaith yw y bydd y canran sy'n ennill y graddau uchaf yn codi, yn groes i'r tuedd yn ddiweddar.
Fe wnaeth y nifer o ddisgyblion o Gymru lwyddodd i ennill y graddau uchaf ostwng y llynedd, a hynny am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Bydd y canlyniadau yn arwain at addysg uwch neu waith i rai, ond mae'r wyth prifysgol yng Nghymru wedi dweud bod llefydd ar gael drwy'r system glirio.
Achos pryder?
Llynedd, cafodd y cynnydd yn y gyfradd llwyddodd i basio ei groesawu, ond dywedodd y gweinidog addysg, Huw Lewis, fod y canran wnaeth lwyddo i gael y graddau uchaf yn achos pryder.
22.9% lwyddodd i gael graddau A ac A* yng Nghymru llynedd, llai na'r cyfartaledd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru- oedd yn 26.3%.
Mae'r corff addysg, Estyn, wedi dweud nad yw'r disgyblion mwyaf medrus yn cael eu hymestyn yng Nghymru, a bod hynny yn rhan o'r rheswm bod llai o'r graddau uchaf i blant Cymru.
Yma yng Nghymru, mae disgyblion hefyd yn cael canlyniadau'r Fagloriaeth Gymreig.
Mae'r niferoedd sy'n astudio'r cwrs wedi cynyddu yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf wrth i fwy o ysgolion ddechrau ei gynnig.
Ar hyn o bryd, dim ond pasio neu fethu'r Fagloriaeth y mae disgyblion, ac roedd pryderon y byddai llai o brifysgolion yn fodlon ei dderbyn fel cymhwyster oherwydd hynny.
Gall hynny newid, oherwydd bydd y Fagloriaeth yn cael ei raddio yn y dyfodol. Mewn dwy flynedd bydd disgyblion yn cael gradd o A* i C ar gyfer y Fagloriaeth.
Y y cyfamser mae arweinwyr undeb yn annog gofal wrth i ganlyniadau arholiadau Safon Uwch gael eu cyhoeddi.
Fe ddaw hyn wedi newidiadau i gymwysterau a fydd yn gwneud hi'n anodd cymharu Cymru gyda gweddill y DU.
Dadansoddiad gan ein Gohebydd Addysg, Arwyn Jones
I'r rhan fwyaf o fyfyrwyr bydd yn amser i ddathlu, hyd yn oed os yw hynny'n golygu galwadau brys i rai i sicrhau lle ar y cyrsiau delfrydol.
O ran hynny mae newyddion da, wrth i'r sector addysg bellach ddod yn fwy cystadleuol, mae prifysgolion yn awyddus i lenwi cyrsiau.
Felly eu cyngor nhw yw i ffonio yn gynnar.
Ar draws Cymru, bydd heddiw yn gyfle i weld os ydyn ni wedi cau'r bwlch rhyngom ni a gweddill y DU, yn enwedig o ran y graddau uchaf.
Gwefan UCAS Rhif Ffôn: 03331 220 415
Prifysgol Aberystwyth Rhif Ffôn : 01970 608599 / 0800 121 40 80
Prifysgol Bangor Rhif Ffôn : 0800 328 5763
Prifysgol Caerdydd Rhif Ffôn: 029 2087 6000
Prifysgol Glyndŵr Rhif Ffôn: 01978 293439
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Rhif Ffôn : 0300 500 5054
Prifysgol Abertawe Rhif Ffôn: 0800 094 9071
Prifysgol De Cymru Rhif Ffôn: 03455 76 06 06
Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd Rhif Ffôn : 0300 300 0755
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Ddim yn rhan o'r system glirio
Straeon perthnasol
- 13 Awst 2014
- 15 Awst 2013