Cyhuddo DVLA o fod yn aneffeithlon

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys y DVLA yn AbertaweFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd swyddi eu trosglwyddo i Abertawe ym mis Gorffennaf

Mae gweinidog yng Ngogledd Iwerddon wedi cyhuddo staff DVLA yn Abertawe "o fod yn aneffeithlon" wedi iyrwyr ddweud bod problemau wrth drethu a chofrestru ceir.

Dywedodd Mark H Durkan fod "cannoedd o gwsmeriaid" wedi cwyno wedi i waith gael ei drosglwyddo i Gymru ym mis Gorffennaf.

Mae Gweinidog Trafnidiaeth y Deyrnas Gyfun Robert Goodwill wedi dweud bod disgwyl y byddai problemau gyda chofnodion cyn i adrannau gael eu canoli.

"Bydd y problemau'n cael eu datrys ymhen mis fwy neu lai," meddai.

Roedd canoli trwyddedu yng Nghymru'n ddadleuol ac yn golygu colli mwy na 260 o swyddi yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd y rhan fwya o'r staff yn gweithio yn y swyddfa yn Coleraine.

Yr wythnos hon mae gwerthwyr ceir yng Ngogledd Iwerddon wedi dweud bod "problemau mawr" wrth geisio cofrestru ceir newydd.