Dynes wedi marw wedi gwrthdrawiad ar yr M4 ger Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Car heddlu

Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar slipffordd yr M4 ger Abertawe yn oriau mân y bore.

Cafodd y ddynes anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda lori wen yn Llangyfelach tua 04:00 a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Roedd ffordd yr M4 i'r dwyrain wedi cau am oriau gan achosi oedi hir fore Iau.

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am wybodaeth am y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae'r heddlu'n apelio ar i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad neu'r lori neu'r gerddwraig yn ardal cyfnewidfa Llangyfelach cyn y gwrthdrawiad i ddod ymlaen."

Yn dilyn y digwyddiad roedd y ffordd wedi cau ar gyfer ymchwiliadau gan achosi oedi o hyd at awr i rai gyrrwyr. Cafodd y ffordd ei hail-agor tua 09:00.