'Cynllwynio i ladd': dim camau pellach
- Published
Ni fydd unrhyw weithredu pellach yn erbyn merch ysgol gafodd ei harestio ynglŷn â honiadau ei bod wedi cynllwynio i ladd athrawes mewn ysgol yn Sir Caerffili.
Roedd y ferch, sydd erbyn hyn yn 15 oed, wedi ei harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio athrawes yn Ysgol Cwmcarn.
Y gred yw mai Alison Cray oedd targed y cynllwyn.
Ond ni fydd y ferch o Risga'n wynebu unrhyw weithredu pellach wedi i'r heddlu dderbyn cyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron.
Roedd merch ysgol arall, o Drecelyn, hefyd wedi ei harestio ar amheuaeth o fygythiadau i ladd, bod â llafn yn ei meddiant ar dir yr ysgol a chynllwynio i lofruddio.
Dywedodd yr heddlu ei bod hi yn parhau ar fechniaeth.
Straeon perthnasol
- Published
- 6 Mai 2014
- Published
- 3 Mai 2014