Llofrudd April Jones yn gwneud cais am iawndal
- Cyhoeddwyd

Mae Mark Bridger, llofrudd April Jones, wedi gwneud cais am iawndal wedi iddo gael ei anafu gan garcharor arall.
Cafodd Bridger ei garcharu am oes ym mis Mai 2013 am lofruddio'r ferch bump oed.
Juvinal Ferreira, 24 oed, oedd eisoes wedi cael ei ddedfrydu i oes dan glo am lofruddio dynes, ymosododd ar Bridger.
Defnyddiodd Ferreira arf oedd wedi'i lunio o rasel i dorri gwyneb Bridger yng Ngharchar Wakefield ym mis Gorffennaf 2013.
Mae BBC Cymru ar ddeall bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn herio cais Bridger, ac nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud hyd yn hyn.
Derbyniodd Ferreira ail ddedfryd o garchar am oes a chynyddwyd y lleiafswm y byddai'n treulio yn y carchar o 22 mlynedd i 27 mlynedd yn dilyn ei ymosodiad ar Bridger.
Cafodd April Jones ei chipio gan Bridger wrth iddi chwarae gyda'i ffrindiau ger ei chartref ym Machynlleth ym mis Hydref 2012.
Tydi corff y ferch fach heb gael ei ddarganfod, ond cafwyd hyd i waed a darnau o esgyrn a oedd yn gyson â phenglog dynol ifanc yn y tŷ Roedd Bridger yn ei rentu gerllaw.
Erbyn hyn, mae'r bwthyn yng Ngheinws, Powys, wedi'i brynu gan Lywodraeth Cymru am £149,000, a bydd yn cael ei ddymchwel.
Straeon perthnasol
- 4 Awst 2014
- 13 Ionawr 2014
- 2 Hydref 2013
- 11 Medi 2013
- 28 Awst 2013
- 9 Gorffennaf 2013