Ydy'r Alban yn gallu fforddio annibyniaeth?

  • Cyhoeddwyd
scottish bank notesFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r economi wedi bod yn ganolog i ymgyrchu'r ddwy ochr

Wrth gerdded i Senedd yr Alban o ganol Caeredin, rhaid pasio siop Graham Muir ar y Royal Mile.

Mae'r posteri sy'n addurno ei ffenestri'n dangos ei ddaliadau gwleidyddol.

Mae un yn annog cwsmeriaid i bleidleisio Ie fis Medi gyda llun o David Cameron yn sugno olew mas o Fôr y Gogledd.

Ac mae'n ddelwedd sy'n crynhoi un o agweddau pwysicaf - a mwyaf tanllyd - y dadleuon dros ac yn erbyn annibyniaeth.

Disgrifiad o’r llun,
Ar ffenestri siop Graham Muir mae posteri sy'n cefnogi pleidlais Ie yn y refferendwm

I genedlaetholwr cadarn fel Mr Muir, olew'r Alban yw hwn.

Oherwydd gweledigaeth yr SNP byddai'r elw sy'n dod ohono yn cael ei fuddsoddi mewn cronfeydd arbennig a'i wario ar wella'r economi.

Ond ydy'r SNP wedi goramcangyfrif cyfoeth naturiol yr Alban? Mae un sefydliad ymchwil wedi dweud y byddai Alban annibynnol yn brin o arian.

Yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Ariannol, petai'r trethi o Fôr y Gogledd yn llifo tuag at y llywodraeth yng Nghaeredin yn hytrach na'r Trysorlys yn Llundain, byddai'n rhaid torri gwariant cyhoeddus neu godi trethi.

Mae'r SNP yn gwrthod hyn tra bod rhai yn dweud y bydd technoleg newydd yn caniatáu i'r diwydiant gymryd mantais ar storfeydd newydd o olew.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,
Mae ymgyrchwyr Ie a Na wedi cyfeirio'n aml at y diwydiant olew

Roedd y Cymro Keith Bowen yn arfer gweithio i gwmni olew BP ac wedi ymgartrefu yn yr Alban, yn Clackmannanshire. Mae'n erbyn annibyniaeth.

Yn wreiddiol o'r Hendy ger Pontarddulais, mae'n bwriadu symud nôl i Gymru os bydd yr Alban yn pleidleisio Ie ar Fedi 18.

"Sdim ffeithiau ar ga'l," yw un o'i gwynion am yr ymgyrchu.

Ond efallai bod hynny oherwydd bod cymaint o fanylion heb eu penderfynu eto.

A fydd yr Alban yn cael rhannu'r bunt? Faint o ddyledion y Deyrnas Unedig fyddai'n cael eu trosglwyddo i Alban annibynnol? Ac os ydy'r Albanwyr yn pleidleisio yn erbyn annibyniaeth, pa bwerau ychwanegol fyddai'n cael eu datganoli i Senedd yr Alban?

Ni fydd y materion hyn yn cael eu trafod tan ar ôl y refferendwm.

Dyw Graham Muir ddim yn gwerthu papur newydd y Glasgow Herald yn ei siop.

Diffyg gwybodaeth wrthrychol

Efallai byddai rhai o'i gwsmeriaid wedi ymddiddori mewn colofn wnes i ddarllen yn y papur pan o'n i yn yr Alban ddechrau'r haf.

Disgrifio'r ddadl am annibyniaeth fel "ffars" wnaeth sylwebydd y papur, gan ddweud fod angen gradd mewn economeg i ddilyn yr ymgyrch.

Os yw'r dadlau rhwng y ddwy ochr yn frwd, mae rhai'n teimlo bod diffyg gwybodaeth wrthrychol ar gael i'w helpu nhw i benderfynu sut i bleidleisio.