Tony Pulis yn gadael Crystal Palace

  • Cyhoeddwyd
Tony PulisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Tony Pulis wedi gadael Crystal Palace

Mae'r Cymro Tony Pulis wedi gadael ei swydd fel rheolwr Crystal Palace a hynny 48 awr yn unig cyn dechrau'r tymor newydd yn yr uwchgynghrair.

Bu tensiynau mawr rhwng Pulis, sy'n 56 oed, a chadeirydd Crystal Palace, Steve Parish.

Y tymor diwethaf fe wnaeth Pulis, cyn rheolwr Stoke, ennill gwobr rheolwr y flwyddyn yn yr uwchgynghrair.

Ond roedd y Cymro yn anhapus ag anallu Palace i ddenu, neu gynnig digon o arian i ddenu, chwaraewyr newydd.

'Gwneud mwy i'w gadw'

Dywedodd y sylwebydd a'r cyn chwaraewr rhyngwladol, Malcolm Allen, ar raglen Dylan Jones ar Radio Cymru fod yr anghytuno wedi dechrau diwedd y tymor diwethaf.

Ychwanegodd iddo siarad â rai o staff hyfforddi'r clwb fore Gwener.

"Roedd o eisiau dod â chwaraewyr newydd i mewn ar £40,000 neu £50,000 yr wythnos a dydi hynny ddim yn mynd i ddigwydd yn Crystal Palace.

"Oedd o wedi gwneud mor dda- a chael bonws o dros £1 miliwn y llynedd - ond doedd hwnna ddim yna blwyddyn yma.

"On i'n meddwl byddai Palace wedi rhoi cytundeb newydd iddo, mwy o bres neu beth bynnag, a gwneud mwy i'w gadw o - ond mae yna fwy i'r stori na jyst rhoi bai ar gadeirydd Crystal Palace.

"Dwi'n llawn parch iddo (Pulis) - does ru'n o'i dimau wedi disgyn. Ond dyn ei hun ydi Tony Pulis ac os oedd o'n meddwl nad oes ganddo llawer o siawns i aros yn y Premiership mae o'n mynd i fynd. "

Y rheolwr cynorthwyol, Keith Millen, fydd yn gyfrifol am y tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Arsenal ddydd Sadwrn.

Pwy nesaf?

Enwau posibl sydd wedi eu crybwyll i olynu Pulis, yw cyn rheolwr Caerdydd, Malky Mackay a chyn rheolwr Manchester United ac Everton, David Moyes.

Un o'r rhai sy'n gyfrifol am ddenu chwaraewyr newydd i Palace ydi Iain Moody, oedd a rôl debyg yng Nghaerdydd cyn iddo gael ei ddiswyddo gan Vincent Tan.