Dim tollau ar Bont Hafren dan y Democratiaid Rhyddfrydol

  • Cyhoeddwyd
Pont Hafren
Disgrifiad o’r llun,
Mae dros 80,000 o gerbydau yn defnyddio'r pontydd bob dydd

Fe fyddai'r tollau ar bontydd Hafren yn diflannu pe bai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan o'r llywodraeth wedi'r Etholiad Cyffredinol flwyddyn nesaf - dyna gyhoeddiad y blaid ddydd Llun.

Dywedodd y blaid y byddai'r polisi yn rhoi "hwb enfawr" i economi Cymru.

Mae mwy nag 80,000 o gerbydau'n defnyddio'r ddwy bont bob dydd, gyda'r gost yn amrywio o £6.40 i gar at £19.20 i lori.

Cwmni preifat sy'n casglu'r tollau, gyda'r arian yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu'r costau adeiladu.

'Tollau annheg'

Y bwriad yw dychwelyd y pontydd i eiddo'r llywodraeth yn 2018, er bod llywodraeth Prydain wedi amcangyfrif y gallai gymryd dwy flynedd bellach i glirio dyledion dros ben.

Nôd y Democratiaid Rhyddfrydol yw cael gwared ar y tollau'n gyfangwbwl, yn hytrach na chodi pris bach i dalu am gostau cynnal a chadw. Dywed y blaid taw £15m y flwyddyn fydda'r gost i'r Trysorlys.

"Mae'r blaid yng Nghymru ar ben ei digon ar ôl i ni sicrhau'r ymroddiad yma," dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. "Ni yw'r unig blaid fyddai'n cael gwared ar y tollau annheg ar Bontydd Hafren.

"Fe fydd y cyhoeddiad yma'n cynnig hwb enfawr i economi Cymru, ac arbed rhyw £1,536 y flwyddyn i deithiwr nodweddiadol.

"Ni ddylid defnyddio'r tollau yma er mwyn codi arian i Lywodraeth Prydain na Llywodraeth Cymru chwaith. Mae tollau'n anghyffredin iawn yn y DU, a dw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam ddylid codi tâl er mwyn dod i mewn i Gymru."

Mae llywodraeth Cymru wedi galw am ddatganoli rheolaeth dros y tollau, ac mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd wedi gwneud galwadau tebyg.