Morgannwg yn brwydro 'nol yn erbyn Essex

Morgannwg

Mae bowlwyr Morgannwg wedi taro 'nol yn erbyn Essex - ond mae gan yr ymwelwyr faintais sylweddol ar ddiwedd ail ddiwrnod y gem bencampwriaeth yn Sain Helen.

Mae Essex 256 o rediadau ar y blaen ar ol sgorio 131 am 5 hyd yma. Hogan oedd bowliwr gorau Morgannwg heddiw wrth iddo gymryd 4 wiced am 38 rhediad. Mae hynny yn golygu ei fod wedi cymryd 50 wiced i Forgannwg eleni.

Yn gynharach cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 161. Roedd Allenby wedi cyrraedd 56 heb fod mas pan ddaeth y batiad i ben. Fe gymerodd Monty Panesar 5 wiced i Essex.

Morgannwg v Essex - Pencampwriaeth y Siroedd: Sain Helen, Abertawe:-

Essex (batiad cyntaf) = 286 (Nick Browne 73)

(ail fatiad) = 131 am 5

Morgannwg (batiad cyntaf) = 161 (Allenby 56 )