Tân Llanfyllin
- Published
Mae pedwar o bobol yn cael triniaeth ysbyty ar ôl tân mewn tŷ yn Llanfyllin, Powys.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ i ddiffodd tân mewn cegin ychydig cyn 05:00 fore Sadwrn.
Mae'r pedwar yn cael eu trin am effaith anadlu mwg ar ôl cael eu cludo i'r ysbyty yn Amwythig mewn ambiwlans.