Buddugoliaeth ar y Cae Ras i Wrecsam
- Published
Wrecsam 1 Nuneaton Town 0
image copyrightGetty Images
Roedd gôl Louis Moult yn ddigon i sicrhau triphwynt i Wrecsam yn erbyn Nuneaton.
Sgoriodd Moult yn erbyn ei hen glwb wrth i'r Dreigiau daro 'nol ar ôl canlyniad siomedig nos Fercher.
Fe ddaeth y gôl yn y pedwerydd munud, Moult yn sgorio a'i droed dde.
Cafodd Wrecsam sawl cyfle da i ddyblu eu mantais, roedd Elliott Durrell yn anffodus i beidio sgorio ar ôl iddo gael sawl cyfle.
Roedd gweld Moult yn sgorio yn brofiad digalon i Nuneaton, sydd heb sgorio y tymor hwn.
Ond roedd mwyafrif y dorf o 3,292 yn falch o adael y Cae Ras ar ôl gweld buddugoliaeth,