Casnewydd yn colli mantais o ddwy gôl
- Cyhoeddwyd

Casnewydd yn dathlu yn rhy gynnar ar ôl mynd ar y blaen.
Morecambe 3 Casnewydd 2
Mae Casnewydd yn ceisio dygymod â'r siom o golli gem ddramatig yn Morecambe.
Ar ôl sgorio ddwywaith yn yr hanner cyntaf, fe ildiodd Casnewydd dair gôl yn yr ail hanner.
Fe aeth County ar y blaen ar ôl sgorio dwy gol mewn dau funud. Adam Chapman a Aaron O'Connor yn sgorio ac yn rhoi mantais o ddwy gôl iddyn nhw ar yr egwyl.
Ond fe sgoriodd Kevin Ellison ddwywaith yn yr ail hanner i Morecambe cyn i Paul Mullin sgorio'r gôl allweddol i'r tîm cartref ar ôl 84 munud.