Perygl i 40 o swyddi 'Homebase' Llandudno

  • Cyhoeddwyd
hombase llandudnoFfynhonnell y llun, Steve Daniels
Disgrifiad o’r llun,
Mae cyfnod o ymgynghori wedi cychwyn yn y siop yn Llandudno

Mae tua 40 o swyddi yn 'Homebase', Llandudno mewn perygl, ar ôl i'r cwmni gyhoeddi eu bod yn ystyried cau'r siop.

Mae'r siop yn rhan o barc manwerthu Mostyn Champneys yn y dref glan môr, ac mae'r cwmni wedi cychwyn ar gyfnod o ymgynghori.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod y staff wedi cael gwybod am y sefyllfa, gan ychwanegu:: "Byddwn yn gweithio gyda staff yn ystod yr wythnosau nesaf i'w cefnogi nhw gymaint ag y bo modd"

"Oherwydd y sensitifrwydd masnachol, ni allwn wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd."

Mae'r gadwyn DIY yn cyflogi 19,000 o bobl ar draws eu canolfannau yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.