Cyd-yrrwr rali o Gymru mewn cyflwr sefydlog

  • Cyhoeddwyd
Dai RobertsFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Dai Roberts ei hedfan i ysbyty yn Belfast ar ôl y ddamwain

Mae cyd-yrrwr rali o Gymru a gafodd ei anafu mewn damwain wrth gymryd rhan yn Rali Ulster, mewn cyflwr sefydlog ac mae'n gyfforddus.

Cafodd Dai Roberts, 28, o Gaerfyrddin, ei hedfan i ysbyty yn Belfast ar ôl y ddamwain a laddodd y gyrrwr 20 mlwydd oed, Timothy Cathcart.

Digwyddodd y ddamwain ar gymal Fardross y rali yn Sir Fermanagh ddydd Gwener.

Bu farw brawd Mr Roberts, Gareth mewn rali yn Sisili ym Mehefin 2012.

Ffynhonnell y llun, BBC (Julian Fowler)
Disgrifiad o’r llun,
Safle'r ddamwain yn Fivemiletown