BBC Cymru Fyw

Pencampwriaeth y Siroedd: Essex yn trechu Morgannwg

Published
image copyrightGetty Images
image captionRoedd Monty Panesar ymysg chwaraewyr disgleiriaf y gêm yn Abertawe

Colli oedd hanes Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd ar ddiwrnod ola'r gêm yn erbyn Essex yn Abertawe.

Gyda'r fuddugoliaeth hon, mae gobeithion Essex am ddyrchafiad yn parhau.

Fe orffenodd Monty Panesar gyda 6-118 yn yr ail fatiad - a 11-168 dros y gêm gyfan - gan olygu mai dim ond 11.2 pelawd oedd ar Essex eu hangen i hawlio'r ddwy wiced olaf.

Graham Wagg oedd y cyntaf i fynd am 64.

Yna, wedi 25 rhediad, cafodd Michael Hogan ei ddal gan Tom Westley oddi ar ei fowlio ei hun, ac roedd Morgannwg yn gyd allan am 284.

Roedd Morgannwg wedi gobeithio cyrraedd eu targed o 348 - ond dim ond pedwar rhediad lwyddodd Wagg i'w hychwanegu at ei gyfanswm dros nos cyn ymadael.

Mae Morgannwg bellach wedi colli pedair gêm yn olynol yn y bencampwriaeth.