Llys: plismon 'wedi cael rhyw yn y ddalfa'
- Cyhoeddwyd

Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed bod plismon oedd yn briod wedi cael rhyw hefo dynes oedd yn cael ei chadw yn y ddalfa.
Cafodd Sarjant Richard Evans, 46 oed o Bont-y-pŵl, hefyd ei gyhuddo o roi lifft adre ir ddynes yn un o gerbydau'r heddlu, ei chusanu hi a'i chyffwrdd hi tra ar ddyletswydd.
Honnir bod Mr Evans wedi ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes arall oedd yn y ddalfa yn yr orsaf heddlu yng Ngwent.
Mae'n gwadu camymddwyn mewn swydd gyhoeddus a thri chyhuddiad arall o ymosod yn rhywiol yn ystod ei 11 mlynedd gyda'r heddlu.
Ystafell ymolchi
Clywodd y rheithgor fod y ddynes gafodd lifft adref yn 2003 wedi ei harestio am ei bod hi wedi meddwi a'i bod wedi ei chludo i orsaf heddlu Ystrad Mynach ger Caerffili.
Gofynnodd hi am ddiod o ddŵr ond aeth y plismon â hi i ystafell ymolchi a chael rhyw. Dywedodd y ddynes ei bod hi wedi cytuno i hynny ddigwydd.
Dywedodd yr erlynydd, John Philpotts: "Os yw swyddog yr heddlu yn cymryd rhan mewn gweithred rywiol gydag aelod o'r cyhoedd sydd dan ei ofal yna mae hynny'n golygu camymddwyn."
Cafodd y diffynnydd ei gyhuddo o o ymosod ar ddynes arall oedd yn cael ei chadw yn y ddalfa, ac o wneud sylwadau amhriodol i drydedd ddynes.
Dywedodd y drydedd ddynes wrth y llys: "Fe wnaeth i mi deimlo yn anghyfforddus, doeddwn i ddim yn disgwyl hynny gan blismon."
Mae'r achos yn parhau.