Dymchwel pafiliwn: cyngor yn mynd i'r llys
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau ei fod yn mynd i'r llys yr wythnos nesaf oherwydd bwriad i ddymchwel Pafiliwn Corwen.
Bydd gwrandawiad i gais y cyngor yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 26 Awst.
Roedd ymgyrchwyr wedi llwyddo i gael gwaharddeb llys er mwyn atal dymchwel yr adeilad.
Am bron canrif roedd yn un o ganolfannau diwylliannol mwyaf Cymru, yn gartre i ddigwyddiadau mawr fel Eisteddfodau, gigiau Edwards H Dafis a'r Super Furry Animals.
Yn hytrach na'i atgyweirio ar gost o £1.3m mae'r cyngor eisiau ei ddymchwel.
Atal y dymchwel
Tra bod rhai'n lleol eisiau cadw ac atgyweirio'r adeilad presennol, mae eraill yn teimlo na fydd hynny'n bosib.
Mi gaeodd y pafiliwn yn 2010 a'r flwyddyn ddilynol llwyddodd ymgyrchwyr i atal y dymchwel.
Mae'r cyngor wedi dweud y byddan nhw'n ymgynghori gyda thrigolion lleol.
Ddydd Llun dywedodd llefarydd eu bod nhw'n gorfod gwario arian cyhoeddus sylweddol i wneud yn siwr bod y safle'n ddiogel.
"Unwaith y bydd y safle wedi ei glirio mi fyddan ni'n sefydlu ymddiriedolaeth barhaol i weithredu ar statws elusennol y safle er budd pobl Corwen."
Straeon perthnasol
- 26 Mawrth 2014
- 28 Medi 2011
- 26 Gorffennaf 2011