Abertawe'n croesawu athletwyr paralympaidd gorau Ewrop

Aled Sion Davies Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r siom o fedal arian yn hwb i Aled Sion Davies

Bydd cannoedd o athletwyr o 37 gwlad yn cystadlu yn Abertawe yr wythnos hon, yn dilyn seremoni agoriadol Pencampwriaeth Ewropeaidd yr IPC.

Yn eu plith mae 11 o athletwyr o Gymru, sy'n rhan o dîm y DU a Gogledd Iwerddon.

Mae'r cystadlu yn dechrau ddydd Mawrth, gyda nifer o Gymry yn cystadlu.

Bydd Aled Sion Davies, enillodd fedal arian yn y ddisgen yng Ngemau'r Gymanwlad, yn cystadlu, a hefyd Rhys Jones, enillodd fedal efydd yn y 100m T37 yn Glasgow.

Llwyddodd Davies i osod record byd newydd mewn cystadleuaeth ym mis Mai, ond methodd allan ar y fedal aur yn Glasgow i Dan Greaves.

Dywedodd bod y siom o fedal arian yn rhoi hwb iddo ar gyfer y gystadleuaeth yn Abertawe.

'Pwynt i'w brofi'

Image caption Mae Nathan Stephens yn edrych ymlaen at y cystadlu, wedi newid yn y rheolau
Image caption Llwyddodd Rhys Jones (chwith) i ennill medal efydd yn Glasgow fis diwethaf

Mae cyn bencampwr y byd yn y gystadleuaeth gwaywffon F57, Nathan Stephens, wedi dweud bod ganddo "bwynt i'w brofi" yn Abertawe, ar ôl iddo fethu allan ar fedal ar ddiwrnod olaf y Gemau Paralympaidd yn 2012.

Penderfynodd swyddogion bod ei ffordd o daflu yn torri'r rheolau a gorffennodd y tu allan i'r wyth uchaf.

Mae disgwyl i 550 o athletwyr gystadlu dros chwe diwrnod ym Mhentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe.

Mae gan Gymru'r gynrychiolaeth fwyaf yn y ras 100m, lle mae Rhys Jones, Jenny McLoughlin, Olivia Breen, Bradley Wigley, Jordan Howe a Laura Sugar i gyd yn cystadlu.

Fe wnaeth Sugar ymddeol o hoci yn 22 oed er mwyn dechrau rhedeg, a bydd yn cystadlu yn y rasys 100m, 200m a'r naid hir.

Un arall newidiodd ei gamp yn gynnar yn ei yrfa oedd Kyron Duke, aeth i Gemau'r Gymanwlad yn 2010 i godi pwysau, ond sydd erbyn hyn yn cystadlu yn y gystadleuaeth gwaywffon a thaflu pwysau.

Mae Beverley Jones hefyd yn cystadlu i Gymru yn taflu'r ddisgen a'r pwysau.

Athletwyr Cymru yn Abertawe 2014
Athletwr Camp
Aled Sion Davies F42 disgen & taflu pwysau
Rhys Jones T37 100m & 200m
Olivia Breen T38 100m & naid hir
Beverley Jones F37 disgen & taflu pwysau
Josie Pearson F51 disgen & taflu pastwn
Bradley Wigley T38 100m & 200m
Nathan Stephens F57 gwaywffon & disgen
Jordan Howe T35 100m & 200m
Kyron Duke F41 taflu pwysau & gwaywffon
Laura Sugar T44 100m, 200m & naid hir
Jenny McLoughlin T37 100m & 200m

'Pleser mawr'

Nos Lun, fe wnaeth y Gweinidog Chwaraeon, John Griffiths yrru neges 'pob lwc' i'r holl athletwyr sy'n cystadlu, wrth agor y gemau yn swyddogol.

Dywedodd: "Mae'n bleser mawr cael agor Pencampwriaeth Ewropeaidd yr IPC yn Abertawe ac i roi croeso cynnes i chi gyd. Croeso i Gymru.

"Rydyn ni'n falch iawn mai hwn yw'r digwyddiad chwaraeon anabledd mwyaf i gael ei gynnal yng Nghymru erioed. Rydyn ni wedi creu enw i'n hunain dros y blynyddoedd diwethaf o ddenu digwyddiadau chwaraeon enfawr ac mae hwn yn llwyddiant arall i Gymru.

"Mae Cymru yn wlad sydd yn falch o'i threftadaeth pan mae'n dod i ddatblygu athletwyr chwaraeon anabledd o'r safon uchaf a hefyd ein hymrwymiad i ddatblygu cyfleoedd i bobl mewn chwaraeon anabledd ymhellach."