Uwchgynhadledd Nato: 9,500 o blismyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r swyddog sydd yng ngofal plismona ar gyfer uwchgynhadledd Nato yng Nghasnewydd ym mis Medi wedi dweud y bydd 9,500 o blismyn o bob rhan o'r DU yn gweithio ar y digwyddiad.
Bydd 67 o benaethiaid gwladwriaeth yn bresennol ar gyfer y cyfarfod yn y Celtic Manor ac fe fyddan nhw'n aros mewn gwestai yng Nghasnewydd, Caerdydd, Bryste, Caerfaddon, Caerloyw a Cheltenham.
Mae'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Chris Arnitt, wedi bod ar secondiad gyda Heddlu Gwent o Heddlu Glannau Merswy ers wyth mis yn cynllunio'r cyfan.
Disgwyl protestio
Dywedodd Mr Arnitt fod disgwyl i bobl gael eu harestio gan fod nifer fechan o brotestwyr yn bwriadu gorymdeithio i'r Celtic Manor, sydd bellach wedi ei amgylchynnu gan ffens ddiogelwch 13.5 cilometr o hyd.
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n disgwyl gweithgaredd protestio yn y digwyddiad hwn.
"Bydd y mwyafrif llethol ohono'n gyfreithlon, yn heddychlon, fe fyddwn ni'n ei alluogi ac rydyn ni mewn cysylltiad gyda nifer o grwpiau sydd wedi mynegi dymuniad i ddod a phrotestio cyn neu ar ddiwrnod cyntaf yr uwchgynhadledd.
"Ac yn anffodus, dwi'n meddwl y gwelwn ni ôl troed protest anoddach a llai heddychlon, pobl yn bwriadu gweithredu'n uniongyrchol i darfu, neu sydd efallai am weithredu i achosi difrod."
Cynhelir gorymdaith yng Nghasnewydd ar 30 Awst, gyda rali ac areithiau, a dywedodd Mr Arnitt fod hynny'n "weithgaredd protest perffaith gyfreithlon," ond ychwanegodd bod disgwyl "rhywbeth ychydig bach yn fwy heriol" ar ddiwrnod yr uwchgynhadledd.
"...Y realiti ydy na gyrhaeddan nhw Celtic Manor, fe fyddan nhw'n dod ar draws y fframwaith ddiogelwch o gwmpas safle'r uwchgynhadledd.
"Bydd unrhyw ymdrech i fylchu honno'n arwain at bobl yn cael eu harestio achos byddan nhw'n cyflawni gweithredoedd o ddifrod ac yn cyflawni troseddau'n ymwneud â'r drefn gyhoeddus."
Miloedd o staff
Mae pob un o'r 28 o wledydd Nato'n mynd i fod yn bresennol yn ogystal â gwledydd ISAF a chymar-genhedloedd Nato.
Yn ogystal â'r gwahoddedigion, disgwylir tua 10,000 o staff a 2,000 o'r cyfryngau.
Dywedodd Mr Arnitt fod costau'r gwaith plismona yn cael eu canoli.
Bydd yr uwchgynhadledd yn canolbwyntio ar y sefyllfa yn Afghanistan, argyfwng Rwsia-Wcrain a rôl Nato yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- 19 Awst 2014