Pryder yng Nghaerfyrddin am ddyn coll
- Published
image copyrightOther
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gynyddol bryderus am les dyn 72 oed sydd ar goll ers y penwythnos.
Does neb wedi gweld David Markey o ardal Tregynnwr, Caerfyrddin ers 8.20 fore dydd Sadwrn, pan roedd e ger pont Pensarn ar gyrion y dre.
Ar y pryd roedd e'n gwisgo siaced liw hufen â zip, trowsus golau ac esgidiau rhedeg, a credir ei fod yn cario bag plastig.
Yn ôl disgrifiad yr heddlu, mae Mr Markey yn wyn, tua phum troedfedd pum modfedd o daldra, ac mae ganddo wallt llwyd.
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhywun sydd allan yn cerdded mewn ardaloedd agored i gadw llygaid amdano, ac wedi gofyn i bobl â thai allan i'w harchwilio.
Dylai unrhywun sydd wedi gweld Mr Markey, neu sydd ag unrhyw wybodaeth amdano, gysylltu â'r heddlu.