Llys: 'Lladd beiciwr pan oedd yn edrych ar ffôn'

Andrzej Wojcicki, gyrrwr y bws
Image caption Andrzej Wojcicki, gyrrwr y bws

Mae llys wedi clywed bod gyrrwr bws bach wedi taro beiciwr a'i ladd pan oedd yn edrych ar luniau o hen geir ar ei ffôn symudol.

Yn Llys y Goron Caerdydd mae Andrzej Wojcicki, 44 oed o'r Coed Duon, wedi gwadu achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Clywodd y llys fod Owain James yn seiclo ar yr A472 yn Nhrecelyn ym mis Gorffennaf y llynedd.

Roedd y dyn o Oakdale wedi taro'r bonet ac yna ffenest flaen y bws cyn cwympo ar y ffordd.

Yn ôl yr erlynydd, Nicholas James, roedd y bws bach yn teithio ar gyflymder o 50 mya.

'Denu ei sylw'

"Ni welodd y gyrrwr y beiciwr am fod rhywbeth arall yn denu ei sylw," meddai.

"Am fod y diffynnydd yn gyrru'n beryglus fe achosodd farwolaeth Owain Richard James.

"Does neb yn tynnu lluniau ac edrych arnyn nhw wrth yrru cerbyd."

Dywedodd nad oedd y gyrrwr wedi brecio ac ni stopiodd yn syth wedi'r gwrthdrawiad.

Roedd y diffynnydd wedi dweud wrth yr heddlu fod Mr James wedi tynnu allan o flaen y bws bach.

Mae'r achos yn parhau.