UCAS: Cysylltu â Phrifysgol Abertawe 'ar fyrder'
- Published
Mae UCAS, y corff sy'n gyfrifol am geisiadau i brifysgolion, wedi dweud wrth BBC Cymru y byddan nhw'n cysylltu â Phrifysgol Abertawe "ar fyrder" wedi i ddisgybl weld ei ganlyniadau Lefel A ar eu gwefan ddyddiau cyn diwrnod eu cyhoeddi.
Mewn e-bost sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, mae'r disgybl yn dweud ei fod wedi mewngofnodi i wefan Prifysgol Abertawe ddydd Llun diwethaf - ac wedi gweld ei ganlyniadau Lefel A.
Fe ddywedodd y brifysgol eu bod nhw'n ymwybodol o'r broblem, gan ddweud eu bod nhw'n "ymddiheuro i'r myfyriwr dan sylw".
Maen nhw'n dweud mai digwyddiad unigol oedd hwn a bod neb arall wedi ei effeithio.
Straeon perthnasol
- Published
- 14 Awst 2014
- Published
- 14 Awst 2014