Tribiwnlys i swyddogion Llyfrgell Gen yn dechrau
- Cyhoeddwyd

Mae tribiwnlys cyflogaeth wedi dechrau yn Hwlffordd, ar ôl i'r Llyfrgell Genedlaethol ddisgyblu aelod o'r uwch dîm rheoli am y tro cyntaf erioed.
Mae dau o gyn uwch-swyddogion y llyfrgell, Arwel Jones ac Elwyn Williams, yn honni iddyn nhw gael eu diswyddo i bob pwrpas (constructive dismissal), a bod y llyfrgell wedi torri telerau eu cytundebau drwy israddio eu swyddi.
Cafodd y ddau eu hîsraddio gan banel disgyblu am gamgymeriadau yn ymwneud â rhoi cytundeb i gwmni preifat.
'Torri telerau'
Mae Arwel Jones ac Elwyn Williams wedi mynd â'r llyfrgell i dribiwnlys gan honni bod y llyfrgell wedi torri telerau eu cytundebau.
Cafodd y ddau eu hîsraddio i swyddi dau fand yn îs yn dilyn proses disgyblu, rhywbeth y mae'r dynion yn honni oedd gyfystyr a'i diswyddo, ac yn annheg.
Digwyddodd y broses disgyblu ar ôl i gytundeb gael ei roi i gwmni preifat i wneud gwaith hyrwyddo ar ran y llyfrgell, a clywodd y tribiwnlys am gamgymeriadau gafodd eu gwneud yn y broses dendro ac wrth reoli'r cytundeb hwnnw.
Clywodd y tribiwnlys nad oedd cytundeb ysgrifenedig wedi ei roi i'r cwmni preifat, nad oedd y cytundeb wedi cael ei fonitro yn ysgrifenedig, a bod costau'r cytundeb wedi bod yn sylweddol uwch na'r tendr gwreiddiol.
Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Mr Williams bod monitro yn digwydd ar lafar, ond nad oedd hynny'n cael ei gofnodi.
Derbyniodd bod camgymeriadau wedi eu gwneud, ond honnodd nad oedd wedi cael ei hyfforddi yn ddigonol, a'i fod wedi gwneud ei orau dan yr amgylchiadau.
Archwiliad mewnol
O ganlyniad i hynny, cafwyd archwiliad mewnol i'r cytundeb, a dechreuodd y broses ddisgyblu o ganlyniad i hynny.
Cafodd Mr Williams a'i reolwr llinell, Arwel Jones, eu hîsraddio ar ôl cyfnod o chwe mis wedi eu diarddel o'r gwaith.
Yn achos Mr Jones, dyma oedd y tro cyntaf i aelod o dîm gweithredol y Llyfrgell Genedlaethol gael ei ddisgyblu yn y modd yma.
Clywodd y tribiwnlys hefyd gan swyddog undeb Mr Jones, Paul Nielson o'r FDA.
Yn ei dystiolaeth, dywedodd nad oedd y proses disgyblu yn ddilys nac yn deg, ac nad oedden nhw wedi dilyn y canllawiau cywir.
Honnodd iddo drafod hynny gyda llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Aled Gruffudd Jones, a bod Mr Jones wedi cytuno.
Mae cyfreithiwr y llyfrgell yn dweud nad yw Mr Jones yn derbyn hynny o gwbl.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.