Llys yn clywed bod sylw plismon yn 'gompliment' i ddynes
- Cyhoeddwyd

Mae dynes wnaeth gael rhyw hefo plismon tra yn y ddalfa wedi dweud wrth Llys y Goron Caerdydd ei bod hi wedi ei swyno gan y sylw.
Soniodd y ddynes bod hi wedi gofyn am diod o ddŵr gan Sarjant Richard Evans cyn y digwyddiad.
Mae Mr Evans, 46 ac o Bont-y-pŵl hefyd wedi ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes arall oedd mewn celloedd yng ngorsaf heddlu Ystrad Mynach.
Mae'n gwadu camymddwyn mewn swydd gyhoeddus a tri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Diod o ddwr
Clywodd y llys bod y ddynes wedi ei chadw yn y ddalfa ar cael ei harestio tra oedd hi wedi meddwi ym mis Mai 2006.
Dywedodd bod ganddi syched y bore wedyn a gofynnodd wrth Mr Evans am ddiod.
Yr honiad yw ei fod wedi mynd â hi i ystafell ymolchi a chael rhyw hefo hi.
Dywedodd y ddynes ei bod hi wedi caniatáu i hynny ddigwydd, a'i bod hi "eisiau" i hynny ddigwydd.
Ychwanegodd bod hynny yn "gompliment" iddi, ond nad oedd y berthynas wedi mynd dim pellach.
Cyfarfod yn 2003
Clywodd y llys hefyd bod y ddau wedi cyfarfod am y tro cyntaf yn 2003, pan roddodd Mr Evans lifft adre i'r ddynes.
Honnodd y ddynes bod Mr Evans wedi ei rhoi yng nghefn cerbyd yr heddlu a'i chusanu a chyffwrdd ei chorff.
Dywedodd nad oedd wedi dweud wrth unrhyw un am y digwyddiad, a'i fod ond wedi dod i'r fei pan ddechreuodd yr ymchwiliad i honiadau o ymosod yn rhywiol yn erbyn Mr Evans.
Mae Mr Evans hefyd wedi ei gyhuddo o gyffwrdd corff dynes a'i chusanu tra 'roedd hi yn y ddalfa.
Honnir ei fod wedi gwylio dynes arall yn newid cyn tynnu blanced oedd hi'n ei defnyddio i guddio'i chorff.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 18 Awst 2014