Amddiffyniad Naz Malik yn dechrau
- Cyhoeddwyd

Mae cyn bennaeth Awema wedi dweud ei fod wedi ceisio perswadio cangen o'r llywodraeth i gymryd arian gafodd ei dalu mewn camgymeriad yn ôl ar ddau achlysur.
Yn ôl Naz Malik, fe wnaeth Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (Wefo) ordalu £100,000 ar un achlysur a £2,500 ar achlysur arall.
Dywedodd fod Awema wedi gorfod "ceisio eu perswadio i gymryd yr arian yn ôl".
Gwnaeth Mr Malik ei sylwadau ar ddechrau'r amddiffyniad mewn achos lle mae'n gwadu tri chyhuddiad o dwyll gwerth cyfanswm o £15,000.
Gor-daliadau
Fore dydd Mercher clywodd y llys fod Mr Malik wedi symud i Brydain o Nairobi yn 1965 a'i fod wedi byw a gweithio yma ers hynny.
Fe astudiodd fel cyfrifydd siartredig ond wnaeth o ddim gwneud yr arholiadau olaf.
Wedi iddo gyfarfod ei wraig fe symudodd i Bort Talbot a nes ymlaen fe setlodd y ddau yn Abertawe.
Mae wedi gweithio fel cyfrifydd o fewn y gwasanaeth iechyd ac yna fe ddechreuodd weithio gydag Awema, gan ddisgrifio'r corff fel bod yn "ganlyniad i ddatganoli yng Nghymru".
Cafodd ei benodi fel cyfarwyddwr dros dro yn 2001, cyn cael y swydd yn barhaol wedi iddi gael ei hysbysebu'n genedlaethol.
Fe ddigwyddodd y gordaliad o £100,000 yn 2008, yn ôl Mr Malik, ac fe fu'n rhaid iddo roi pwysau ar Wefo i'w gymryd yn ôl.
Dywedodd Mr Malik wrth y llys ei fod wedi cysylltu â Wefo am yr eildro yn dilyn yr ail or-daliad.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2014
- Cyhoeddwyd14 Awst 2014
- Cyhoeddwyd13 Awst 2014