Hyfforddwr gyrru'n euog o droseddau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi cael hyfforddwr gyrru yn euog o ymosodiadau rhyw ar ddwy ferch oedd yn cael gwersi ganddo yn Nolgellau.
Cafodd Derek Godfrey, tad 49 oed, rhybudd gan y barnwr yn Llys y Goron Yr Wyddgrug y dylai ddisgwyl dedfryd o garchar.
Bydd yr erlyniad hefyd yn ceisio am Waharddeb Troseddau Rhyw i'w rhwystro rhag rhoi gwersi gyrru yn y dyfodol.
Roedd Godfrey wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn oedd yn dyddio nôl i 2010 a 2011.
Clywodd y rheithgor ei fod wedi anfon pentwr o negeseuon testun at un ferch 23 oed, gan awgrymu bod y ddau'n cael perthynas â'i gilydd, ac fe anfonodd lun o'i rannau preifat mewn un neges.
Roedd hefyd wedi gwneud sylwadau anweddus i ferch 17 oed, a chyffwrdd â'i choes wrth iddi yrru.
Dywedodd y Barnwr Philip Hughes wrtho: "Rydych wedi eich cael yn euog o ddau gyhuddiad o ymosodiadau rhyw.
"Roedd y cyhuddiadau o flaen cefndir o fod mewn safle o ymddiriedaeth fel hyfforddwr gyrru. Rhaid i chi ddisgwyl dedfryd o garchar maes o law."
Cafodd Godfrey hefyd orchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw.
Bydd y dedfrydu'n digwydd mewn gwrandawiad arall cyn hir.