£8.4 miliwn i gefnogi'r henoed

  • Cyhoeddwyd
Henoed

Bydd £8.4 miliwn yn cael ei ddefnyddio i wella'r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi'r henoed yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau i wasanaethau i gefnogi pobl hŷn, yn enwedig pobl hŷn bregus, i gynnal eu hannibyniaeth a pharhau i fyw yn eu cartrefi yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Mae amrywiaeth o wasanaethau gofal canolraddol yn cael eu darparu ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro.

Er mwyn cefnogi'r gwasanaethau hyn bydd awdurdodau lleol yn derbyn £8.4 miliwn gan Gronfa Gofal Canolraddol (GGC) Llywodraeth Cymru er mwyn gweithio gyda phartneriaid o'r sectorau iechyd a thai ynghyd â'r trydydd sector a'r sector annibynnol.

Mae'r GGC wedi ei sefydlu er mwyn darparu gwell gofal a chefnogaeth i bobl hŷn, yn eu cartrefi neu yn y gymuned leol.

Bydd y gronfa o gymorth i leddfu'r pwysau ar y GIG drwy atal ymweliadau di-angen â'r ysbyty neu ofal preswyl, a lleihau oedi wrth i bobl adael yr ysbyty.

'Cyfle gwych i wneud gwahaniaeth'

Bydd y buddsoddiad yn ariannu nifer o gynlluniau yn yr ardal gan gynnwys:

  • Datblygu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol integredig i ddarparu ymateb cyflym a gwasanaethau eraill.
  • Datblygu gwasanaethau 'cyfnos' integredig fydd yn darparu trafnidiaeth adref o'r ysbyty a chefnogaeth symudedd yn y cartref i atal ymweliadau â'r ysbyty.
  • Prosiect sy'n cael ei arwain gan Care and Repair fydd yn cyflymu mân addasiadau a darparu gwasanaeth i helpu cadw pobl yn eu cartrefi.
  • Datblygu pellach i lety ble ceir cefnogaeth, gan gynnwys fflatiau 'symud ymlaen' dementia yn Sir Benfro a thai gofal ychwanegol.

Dywedodd Gwenda Thomas: "Bydd y £8.4 miliwn sydd wedi ei roi i dros 70 o brosiectau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl hŷn.

"Bydd y buddsoddiad yn galluogi gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai, ynghyd â'r trydydd sector a'r sector annibynnol, i gydweithio ar brosiectau blaengar i gefnogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth ac aros yn eu cartrefi eu hunain."

Roedd y gronfa yn rhan o gyllideb Cymru 2014-15 a gytunwyd ar y cyd rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.